大象传媒

Halen M么n yn ehangu eu busnes

  • Cyhoeddwyd
Halen MonFfynhonnell y llun, Halen Mon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cwmni wedi dechrau gwerthu halen sy'n blasu o bethau fel tsili yn ddiweddar

Mae Halen M么n yn paratoi i ehangu eu busnes gyda buddsoddiad o dros filiwn o bunnoedd.

Fel rhan o'r cynlluniau bydd canolfan ymwelwyr newydd yn cael ei hadeiladu ac mae'r cwmni'n gobeithio gallu cyflogi pum aelod newydd o staff.

Bydd hyn yn eu galluogi i gynyddu eu hallbwn yn sylweddol.

Mae'r cwmni halen eisoes yn allforio eu cynnyrch i 22 o wledydd gan gynnwys Awstralia a gogledd America, lle mae'n cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn siocled caramel.

Yn 么l David Lea-Wilson, un o gydberchnogion y cwmni, maent wedi bod yn ceisio gwella'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio er mwyn prosesu'r halen.

Yr hyn sydd wedi sbarduno'r buddsoddiad diweddaraf yw penderfyniad Cronfa Cymunedau'r Arfordir i roi 拢200,000 i'r cwmni - wedi hyn penderfynodd David a'i bartner Alison fuddsoddi 拢500,000 ychwanegol.

Mae 拢100,000 ychwanegol wedi cael ei roi gan Lywodraeth Cymru a'r gweddill wedi dod gan Gyngor Gwynedd ac o ffynonellau preifat, sy'n dod a'r cyfanswm i 拢1.2 miliwn.

Dywedodd Mr Lea-Wilson: "Mae'r arian i gyd yna nawr. Dim ond un darn o'r jig-s么 sydd ar 么l sef caniat芒d cynllunio gan Gyngor Gwynedd."

Mae'r cais cynllunio ar gyfer adeiladu'r ffatri brosesu newydd eisoes yn ei le, ond nid yw'r cyngor wedi penderfynu ynghylch y cais i agor y canolfan ymwelwyr newydd eto.

Yn 么l Mr Lea Wilson mae angen y ganolfan er mwyn medru darparu ar gyfer y 6,000 o bobl sy'n dod i ymweld 芒'r safle bob blwyddyn.

Dywedodd y byddai gan yr adeilad newydd waliau gwydr lle bydd pobl yn gallu gweld y gwaith yn mynd rhagddo.

Yn ogystal mae cynlluniau ar gyfer dechrau teithiau tywys o gwmpas y safle.

Mae'r awdur Robin Llywelyn wedi disgrifio Halen M么r M么n fel "cynnyrch gl芒n gloyw Cymru... distylliad gwefreiddiol o haul a heli, tir a m么r".