Theatr Bryn Terfel yw'r enw newydd
- Cyhoeddwyd
Theatr Bryn Terfel fydd enw'r theatr yn Pontio i anrhydeddu'r canwr opera byd-enwog a anwyd yng Ngwynedd.
Dywedodd yr Is-ganghellor, Yr Athro John G. Hughes: "Fel y g诺yr pawb, mae gan Bryn enw da'n rhyngwladol yn y celfyddydau ac mae eisoes wedi mynegi diddordeb mawr yn Pontio a'i gefnogaeth iddo."
Mae wedi perfformio mewn tai opera ym mhob rhan o'r byd ond dechreuodd ei yrfa yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn fachgen ysgol cyn symud ymlaen i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn Llundain.
Dywedodd y brifysgol eu bod yn falch i anrhydeddu unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i gerddoriaeth ac wedi bod yn llysgennad gwych i'r ardal ac i Gymru.
Ychwanegodd yr Athro Hughes: "Mae Cyngor y Brifysgol hefyd yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wnaed gan unigolion eraill yn y celfyddydau ac arloesi yng ngogledd Cymru.
"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud awgrymiadau ac wedi ysgrifennu atom yngl欧n ag enw'r theatr.
"Byddwn yn awr yn ystyried ffyrdd i gydnabod cyfraniad unigolion eraill yn ogystal 芒'n cyllidwyr a'n noddwyr."
Roedd nifer o bobl amlwg ym myd y theatr yng Nghymru wedi cyflwyno dogfen i aelod Cyngor y Brifysgol yn galw am ddefnyddio enw Wilbert Lloyd Roberts - sefydlydd Cwmni Theatr Cymru yn 1968.
Cafodd Theatr Gwynedd ei chodi fel cartref i'r cwmni ym Mangor yn 1975 cyn i'r theatr gael ei dymchwel yn 2010.
Dirprwy newydd
Mae Bwrdd Prifysgol Bangor hefyd wedi cadarnhau mai'r Athro Jerry Hunter yw Dirprwy Is-Ganghellor y sefydliad wedi i Wyn Thomas ildio'i gyfrifoldeb yn y swydd wedi tair blynedd.
Yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio, graddiodd yr Athro Jerry Hunter ym Mhrifysgol Cincinnati, cyn astudio am MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Harvard.
Dysgodd Gymraeg mewn cyrsiau WLPAN yn Llanbedr Pont Steffan. Bu'n darlithio ym mhrifysgolion Harvard a Chaerdydd cyn ymuno 芒 Bangor yn 2003.
Yn ogystal 芒'i r么l newydd, bydd yn parhau i ddarlithio a gwneud ymchwil academaidd. Bydd yn parhau i gadeirio Bwrdd Ymgynghorol y Celfyddydau i brosiect Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor.
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, ei brif gyfrifoldeb yn ei swydd newydd fydd datblygu ac arwain strategaethau'r brifysgol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau cyfrwng Cymraeg, yn ogystal 芒 datblygu perthynas y brifysgol 芒 chyrff allanol a'r gymuned.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2012
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013