大象传媒

Angen cartrefi i weithwyr Wylfa?

  • Cyhoeddwyd
Tai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pe bai'r atomfa yn cael ei chodi byddai angen cartrefi ar gyfer 3,500 o bobl

Bydd cynghorwyr Ynys M么n yn trafod ddydd Llun sut i sicrhau bod digon o dai ar yr ynys pe bai gorsaf niwclear newydd yn cael ei hadeiladu.

Yn 么l y cyngor, pe bai'r prosiect gwerth 拢8 biliwn i godi Wylfa B yn mynd rhagddo, byddai angen cantrefi ar gyfer 3,500 o bobl tra bod yr atomfa yn cael ei chodi.

Yn 么l adroddiad gan swyddogion y cyngor, byddai hanner y bobl yn aros mewn eiddo wedi ei rentu, gyda'r gweddill yn prynu tai newydd neu'n defnyddio tai ymwelwyr.

Ond mae yna bryder y gallai'r sefyllfa arwain at gynnydd mewn prisiau tai ac y byddai hynny'n ei gwneud yn anodd i bobl leol brynu tai.

Mae Wylfa B yn rhan o brosiect cwmni Horizon, sy'n gobeithio dechrau'r prif waith o godi'r atomfa yn 2018, gyda'r orsaf yn dechrau cynhyrchu trydan yng nghanol y 2020au.

'Angen mwy o wybodaeth'

Dywedodd Sh芒n Williams, pennaeth tai Cyngor M么n, fod angen mwy o wybodaeth gan y datblygwyr.

"Eisoes rydym wedi bod yn gweithio gyda landlordiaid yn y sector preifat ac rydym wedi dechrau ar y gwaith o godi tai fforddiadwy."

Dywed y cyngor fod angen cynllunio ar gyfer gweithwyr fyddai'n dod i'r ynys.

Yn 么l Rhun ap Iorwerth, yr Aelod Cynulliad dros F么n, mae angen cynllunio manwl er mwyn sicrhau fod cymaint 芒 phosib o'r swyddi yn mynd i bobl leol.

"Wrth i'r orsaf gael ei chodi mae angen sicrhau bod hynny'n dod ag arian i'r ynys ond mae'n bwysig sicrhau nad yw'n arwain at argyfwng yn y farchnad dai - ac mae yna botensial y gallai hynny ddigwydd."

'Cynaliadwy'

Yn 么l Dafydd Hardy, asiant gwerthu tai, does yna ddim arwydd fod prisiau tai ar gynnydd eto.

Ond dywedodd ei bod yn bwysig cadw llygad ar y sefyllfa oherwydd byddai cynnydd ym mhrisiau tai yn ei gwneud yn anodd i bobl leol.

"Byddai gwerthwyr tai ddim am weld hynny, maen nhw angen i'r farchnad fod yn un gynaliadwy."

Roedd swyddogion wedi gobeithio y byddai cynllun arfaethedig i agor parc hamdden yng Nghaergybi wedi helpu.

Roedd y datblygwyr, Land & Lakes, wedi dweud y gallai 800 o gartrefi gwyliau gael eu defnyddio fel cartrefi dros dro i weithwyr yn adeiladu Wylfa B.

Ond cafodd y cynlluniau eu gwrthod yn gynharach fis yma er nad oes disgwyl i'r penderfyniad gael ei gadarnhau yn swyddogol am rai wythnosau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol