大象传媒

Cyngor Caerdydd yn cyflwyno cyswllt am ddim i'r we

  • Cyhoeddwyd
Heol-y-Frenhines, Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y gwasanaeth ar gael yn yr ardaloedd siopa yng nghanol y ddinas i gychwyn

Bydd modd i bobl fynd ar y we trwy gysylltiad di-wifr yn rhad ac am ddim yng nghanol Caerdydd o fis nesa' ymlaen.

Mae Cyngor y ddinas yn cyflwyno'r gwasanaeth Wi-Fi ym mhrif ardaloedd siopa Heol-y-Frenhines, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair a'r Aes.

Bydd cyfyngiadau ar y defnydd di-d芒l maes o law, ond ar y dechrau bydd modd i bobl gysylltu 芒'r we cyn hired ag y maent yn dymuno heb dalu unrhyw beth.

Bydd cwsmeriaid gwasanaeth band eang BT yn gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth am ddim, heb unrhyw gyfyngiadau, wedi'r cyfnod cychwynnol hwn.

Mae'r cynllun yn rhan o'r Prosiect Dinasoedd Uwch-Gysylltiedig, sef partneriaeth rhwng y Cyngor Sir a BT Wholesale a fydd yn creu ac yn rheoli'r rhwydwaith, gyda thechnoleg ddiwifr yn cael ei gosod ar oleuadau stryd y ddinas a dodrefn stryd eraill.

Bydd y gwasanaeth ar gael i wahanol rwydweithiau ffonau symudol a darparwyr rhyngrwyd diwifr.

Ehangu'r cynllun

I ddechrau bydd y cyswllt ar gael yn yr ardaloedd prysuraf o ran twristiaeth, masnach a hamdden cyn cael ei ehangu i ardal Bae Caerdydd yn 2014.

Yn 么l y cyngor, bydd trigolion, busnesau a miliynau o ymwelwyr yn elwa o'r gwasanaeth bob blwyddyn.

Dywedodd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Datblygu Economaidd: "Bydd y technolegau diwifr hyn yn ychwanegu at y buddsoddiad mewn band eang ffibr y mae BT eisoes wedi'i gyflwyno ledled Caerdydd gan roi mantais gystadleuol go iawn i'r ddinas wrth ddenu ymwelwyr a busnesau newydd.

"Bydd hyn hefyd yn gwella cyflymder, cwmpas, cryfder a dibynadwyedd gwasanaethau symudol 3G a 4G yn sylweddol i ddefnyddwyr ffonau a dyfeisiau symudol."

Dywedodd Steve Haines, Rheolwr Gyfarwyddwr BT Wholesale dros ddatblygu busnes strategol:

"Yn gyfnewid am adeiladu'r rhwydwaith a'i reoli am ddegawd ar ran y cyngor, dim ond BT Wholesale fydd yn cael defnyddio goleuadau stryd a dodrefn stryd Caerdydd i osod technoleg ddiwifr a chelloedd bychan newydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol