大象传媒

Penderfyniad am ofal babanod y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Mr Jones yn sefydlu panel ar gyfer penderfynu ar leoliad y ganolfan newydd

Bydd rhai gwasanaethau gofal dwys ar gyfer babanod yn parhau yng ngogledd Cymru yn dilyn cyhoeddiad gan y prif weinidog.

Cyhoeddodd Carwyn Jones y byddai canolfan newydd ar gyfer gofalu am fabanod s芒l yn cael ei sefydlu o fewn un ysbyty a'i fod wrthi'n sefydlu panel fydd yn penderfynu ar ei leoliad.

Bydd hyn yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o fabanod yn cael eu trin yng Nghymru.

Ond bydd y babanod mwyaf s芒l - tua 10 y flwyddyn - yn parhau i fynd i ysbyty Arrowe Park yn Lloegr.

Dros y ffin

Ond mae Mr Jones wedi diystyru'r posibiliad o ddarparu gwasanaeth pob lefel o ofal yn y gogledd.

Dywedodd y byddai hyn yn cymryd 10 mlynedd i'w gyflawni a bod y gost a'r gofynion staff yn golygu nad oedd yn opsiwn i'w ystyried ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd mae dau ysbyty yn y gogledd yn darparu gwasanaeth arbenigol o ofal plant (lefel 2) yn Glan Clwyd a Wrecsam Maelor.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud bod diffyg staff yn golygu y dylai babanod sydd angen gofal dwys gael eu trin dros y ffin.

Yn dilyn gwrthwynebiad ffyrnig i'r cynnig yng ngogledd Cymru fe gomisiynodd y llywodraeth adolygiad o'r penderfyniad - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant oedd yn gyfrifol am ei gynnal.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn derbyn argymhellion yr adolygiad yn llawn.

"Mae'r Adolygiad yn cadarnhau bod model Ysbyty Arrowe Park yn ddigonol yn y tymor byr, cyn belled a bod trefniadau llywodraethu yn cael eu cryfhau," meddai.

'Ddim yn syml'

"Mae'r adolygiad yn cynnig model lle mae cysylltiadau 芒 Lloegr yn cael eu cynnal ar gyfer y gofal mwyaf arbenigol ond bod gwasanaethau gwell yn cael eu cadw a'u datblygu yng Nghymru - bydd yn arwain at weld y rhan fwyaf o fabanod yn cael eu trin yng Nghymru.

"Mae'r adroddiad yn gymhleth a ni fydd yr argymhellion fod yn syml i'w gyflawni.

"Felly, rwyf am ei gwneud yn glir i deuluoedd yng Ngogledd Cymru beth yw'r camau nesaf, yn y tymor byr i sicrhau y darperir gwasanaethau rhagorol, ac yn y tymor hir i ddatblygu'r model a nodwyd yn yr adolygiad."

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan y Ceidwadwyr.

'Cyfiawnhau safiad y bobl'

Dywedodd eu llefarydd iechyd Darren Millar: "Diolch am eich ymateb a dwi'n si诺r bydd pobl ledled gogledd Cymru yn adleisio hynny.

"Mae penderfyniad heddiw yn cyfiawnhau eu safiad yn gwrthwynebu cynigion Betsi Cadwaladr gan ddweud nad oedd hwnnw'r ffordd gywir i gymryd mewn cysylltiad 芒 gofal newydd-anedig yn yr ardal.

"Rydw i'n croesawu'r cyhoeddiad fydd yn arbed y gwasanaethau yn y gogledd ac yn talu teyrnged i chi am gydnabod fod y bwrdd iechyd wedi gwneud y penderfyniad anghywir."

Ond doedd Ll欧r Gruffydd o Blaid Cymru ddim yn cytuno bod y prif weinidog wedi gwneud y penderfyniad cywir gan ddisgrifio'r cyhoeddiad fel "buddugoliaeth wag".

'Ddim eisiau cyfrifoldeb'

"Mae'r adroddiad yn dweud nad oes rheswm pam na all y gwasanaeth cyflawn gael ei ddarparu yn y gogledd petai'r ewyllys gwleidyddol yno ... ond dyw e ddim," meddai Mr Gruffydd.

"Ble mae'r uchelgais i adeiladu gwasanaeth o'r radd flaenaf yn y gogledd, brif weinidog? Gallech chi fod wedi cymryd y tarw wrth ei gyrn ond rydych wedi dewis gwneud dim byd.

"Nid chwaraeon i wylwyr yw arwain - prif nodwedd eich arweinyddiaeth yw nad ydych chi eisiau ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb."

Mewn ymateb dywedodd Mr Jones fod Plaid Cymru yn rhoi "cenedlaetholdeb o flaen diogelwch".

"Os yw ei blaid yn dweud ei fod eisiau atal pobl rhag defnyddio'r gwasanaethau dros y ffin yn y dyfodol yna fe ddylai ddweud hynny nawr.

"O fy safbwynt i, yr hyn rwyf am ei weld yw gwasanaethau diogel yn cael eu darparu...

"Bydd rhai babanod yn parhau i fod angen triniaeth arbenigol y tu allan i Gymru - i Blaid Cymru dyw hyn ddim yn bwysig. Chwifio'r faner sy'n bwysig iddyn nhw, nid diogelwch plant."

'Siomedig'

Mae AC y Democratiaid Aled Roberts wedi adleisio siomedigaeth Plaid Cymru.

Dywedodd: "Roeddwn i wedi gobeithio am ymateb gwell gan y prif weinidog heddiw.

"Mae adroddiad Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar wasanaethau newyddenedigol yn trafod y modelau fyddai'n gallu darparu pob lefel o ofal newyddenedigol yng ngogledd Cymru.

"Rwy'n siomedig na fydd y prif weinidog yn bwrw ymlaen gyda'r cynigion hyn ac y bydd o'n hytrach yn canolbwyntio ar atebion byr dymor."

Ymateb y bwrdd iechyd

Mewn ymateb dywedodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn croesawu cyhoeddiad adroddiad y Coleg Brenhinol a chyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw.

"Rydym yn falch y cefnogwyd penderfyniad y bwrdd i sicrhau bod y babanod sydd fwyaf cynamserol a babanod sy'n ddifrifol wael yng ngogledd Cymru yn cael gofal gan d卯m newydd-anedig arbenigol.

"Mae'r adroddiad yn gam pwysig ymlaen a bydd yn helpu i sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu'r rhan fwyaf o wasanaethau newydd-anedig yn lleol.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r panel annibynnol i ystyried ym mhle bydd y gwasanaethau'n cael eu lleoli yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol