大象传媒

Wylfa: Enw newydd i gynllun llai

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon Nuclear Power
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddwyd yr enw newydd nos Iau

Mi fydd gorsaf niwclear sy'n bwriadu cael ei hadeiladu ar Sir F么n, yn cynhyrchu llai o ynni na'r disgwyl.

Wrth ddatgan mai 'Wylfa Newydd' fydd yr enw swyddogol ar y datblygiad, esboniodd cwmni P诺er Niwclear Horizon, mai dau yn lle tri adweithydd d诺r berwedig maent yn bwriadu eu hadeiladu yno.

Mi fydd dyluniad adweithyddion Hitachi, perchnogion Horizon, yn mynd gerbron Rheolydd Niwclear y DU er mwyn cael caniat芒d wedi asesiad dylunio.

Gall hyn gymryd hyd at bedair blynedd a disgwylir i'r broses ddechrau ym mis Ionawr.

Dywedodd cwmni Horizon mewn datganiad: "Mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar gyfer dau adweithydd ABWR fel rhan o un orsaf ar safle Wylfa Newydd. Bydd gan y ddwy uned y gallu i gynhyrchu 2,600 Mega Watt (MW)."

Newid enw

'Wylfa Newydd' fydd enw'r cynllun o hyn ymlaen, er mai Wylfa B sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers i'r cynllun gael ei grybwyll yn wreiddiol flynyddoedd yn 么l.

Dywedodd gr诺p Pwer Niwclear Horizon bod yr enw wedi cael ei ddewis er mwyn "cydnabod y cyfleoedd a'r buddion a ddaw i'r ynys dros y blynyddoedd i ddod".

Dywedodd Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu Horizon: "Mae pobl wedi bod yn defnyddio 'Wylfa B' i gyfeirio at ein prosiect oherwydd, hyd yma, doedden ni ddim wedi rhoi enw swyddogol i'n gorsaf b诺er newydd.

"Ers inni gael ein prynu gan Hitachi, Ltd. y llynedd, rydym wedi gwneud llawer o gynnydd ond mae llawer o'r gwaith hwn wedi bod y tu 么l i'r llenni.

"Flwyddyn nesaf, bydd ein prosiect yn dechrau datblygu mewn ffordd a fydd yn llawer mwy gweladwy i bobl leol. Felly, roeddem yn teimlo mai dyma'r amser iawn i gyhoeddi'r enw newydd.

"Mae mwy i'n cynnig na dim ond dur a choncrit; mae hefyd yn ymwneud 芒 chreu dyfodol newydd, cadarnhaol a llwyddiannus i Ynys M么n."

Cyn i'r gwaith ailddechrau ar ei waith ehangach ar yr effaith ar yr iaith Gymraeg, mae Horizon wedi cyhoeddi ei Bolisi Iaith Gymraeg - gan ffurfioli dull presennol y cwmni o ddefnyddio, diogelu a hyrwyddo'r Gymraeg ym mhopeth y mae'n ei wneud.

Bydd Horizon hefyd yn darparu 拢20,000 o gymorth ariannol i Menter M么n i'w alluogi i gyflwyno prosiectau sy'n hyrwyddo'r iaith yn y gymuned.

Ffurfiwyd Pwer Niwclear Horizon yn 2009 i ddatblygu gorsafoedd p诺er niwclear newydd yn y DU. Ym mis Tachwedd 2012, prynodd Hitachi Ltd o Japan y cwmni oddi wrth y cyn cyd-berchnogion RWE npower ac E.ON UK.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol