Huw Lewis ddim yn disgwyl gwelliant yng nghanlyniadau Pisa

Disgrifiad o'r llun, Huw Lewis: Ddim yn disgwyl gwelliant

Mae Gweinidog Addysg Cymru Huw Lewis wedi dweud nad yw'n disgwyl gweld gwelliant yng nghanlyniadau Pisa Cymru pan fyddant yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Mae profion Pisa yn cymharu perfformiad disgyblion 15 oed o wahanol wledydd mewn tri maes allweddol: darllen, gwyddoniaeth a mathemateg.

Perfformiad disgyblion Cymru oedd y gwanaf ymhlith gwledydd Prydain yn y canlyniadau diwetha', a gyhoeddwyd yn 2010.

Ddydd Mercher dywedodd Mr Lewis wrth raglen Jason Mohammad ar 大象传媒 Radio Wales fod gwelliannau wedi eu cyflwyno ond fod angen amser cyn i bethau wella.

"Rwyf wedi rhybuddio pawb sydd ynghlwm 芒 hyn nad wyf yn disgwyl i'r canlyniadau ym mis Rhagfyr ddangos gwelliant mawr, oherwydd mae'r rhain yn deillio o brofion a wnaethpwyd yn 2012.

"Doedd ein cynllun i wella ysgolion ond newydd ddod i rym wrth i'r plant gael eu profi, felly byddai ddim yn syndod gweld canlyniadau na fyddai'n ysbrydoledig."

Ym mis Hydref roedd Carwyn Jones wedi dweud yn y Senedd: "Rwy'n disgwyl gweld canlyniadau Pisa Cymru yn gwella ym mis Rhagfyr."