´óÏó´«Ã½

Pisa: Holi Cymry tramor am systemau addysg ar draws y byd

  • Cyhoeddwyd

Roedd profion Pisa (Programme for International Student Assessment) 2009 - sy'n cymharu canlyniadau disgyblion 15 oed mewn gwahanol wledydd - yn dangos fod Cymru ar ei hôl hi.

O'r 67 gwlad a gafodd eu hasesu, roedd Cymru yn 38ain ym maes darllen, 40fed ym mathemateg a 30ain yn y profion gwyddoniaeth.

Ond beth am y gwledydd sy'n tueddu i wneud yn well yn yr asesiadau?

Mae Newyddion Ar-lein wedi bod yn holi nifer o Gymry sy'n byw dramor ynglŷn â'r systemau addysg yn eu gwledydd nhw.

HONG KONG

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na lawer o gystadleuaeth am leoedd mewn ysgolion da yn Hong Kong, meddai Arwel Lewis

Mae Arwel Lewis yn byw gyda'i deulu yn Hong Kong ers 2002. Mae ganddo dri o blant, ac mae dau ohonynt yn yr ysgol ar hyn o bryd.

"Mae 'na ddwy system addysg yma - un ryngwladol, ac un sy'n dysgu trwy gyfrwng Catonese a Mandarin.

"Dydy o ddim yn syndod i mi fod Hong Kong yn gwneud yn dda - mae'r system yn galed iawn, mae plant yn gwneud llawer iawn o waith cartre' - ac maen nhw'n gorfod dysgu llawer iawn o bethau ar eu cof. Does dim llawer o ddychymyg oherwydd hynny.

"Mae disgyblion yn gorfod gwneud arholiadau i fynd i'r ysgol gynradd hyd yn oed - rhyw fath o entrance exam. Mae'n creu lot o bwysau ar deuluoedd i gael eu plant i ysgolion da.

"Mae rhai o'r ysgolion da iawn yn denu miloedd o ymgeiswyr - ac mae'r safonau'n uchel iawn achos maen nhw'n gallu dewis y plant gorau.

"Mae 'na lot o bwyslais ar fathemateg a gwyddoniaeth yn arbennig mas fan hyn, yn fwy na Saesneg neu'r celfyddydau, er enghraifft."

CANADA

Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o waith ysgol yn cael ei wneud ar dabledi yn ysgolion Canada, meddai Tracey Cottrell

Fe symudodd Tracey Cottrell - mam i bedwar o blant - o Risga, ger Casnewydd, i Ganada yn 2008. Mae'r teulu yn byw yn Calgary.

"Mae gen i deimladau eitha' cymysg am y system addysg yng Nghanada, ac mae'r system gredydau gymhleth yn dal i fy nrysu i. Os nad y'ch chi'n cael digon o gredydau mewn blwyddyn, chi'n cael eich dal 'nôl am flwyddyn.

"Dydy plant yma ddim yn gorfod ysgrifennu llawer gyda llaw erbyn hyn - mae llawer ohono ar gyfrifiaduron neu sgriniau arbennig. Mae 'na lawer o bwyslais ar dechnoleg yma ac, ar y cyfan, mae'r adnoddau'n dda.

"Does dim llawer o sôn am brofion Pisa yng Nghanada i ddweud y gwir. Ond mae'r wlad o hyd yn edrych ar safonau addysg.

"Mae 'na gymaint o ddewis yma. Mae 'mhlant i, er enghraifft, yn mynd i ysgol sy'n arbenigo yn y celfyddydau. Ond os yw plentyn yn hoffi gwyddoniaeth neu fathemateg, mae modd iddyn nhw fynd i ysgolion sy'n canolbwyntio ar y pynciau hynny.

"Mae'r safonau yn yr ysgolion eu hunain yn uchel iawn. Mewn pwnc fel mathemateg, er enghraifft, byddai'r hyn fyddai disgybl 15 oed yn ei wneud yr un fath â beth fydden nhw'n gwneud yn y brifysgol.

"Mae llawer o blant yn gorfod cael gwersi mathemateg y tu fas i'r ysgol, gan fod nhw'n gweld y gwaith yn anodd. Bydden i'n dweud fod wyth o bob 10 rhiant yn talu am wersi preifat i'w plant."

SELAND NEWYDD

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Evans yn dweud bod mwy o bwyslais ar weithgareddau'r tu allan i'r dosbarth yn Seland Newydd

Un o Lanberis yw Bethan Evans yn wreiddiol, ond mae wedi ymgartrefu yn Christchurch, Seland Newydd, ers 2007. Mae ei merch Beca, 15, yn yr ysgol uwchradd ar hyn o bryd.

"Mae'r system yma'n eitha' gwahanol i Gymru. 'Does dim cymaint o bwyslais ar arholiadau, a mwy o asesu drwy'r flwyddyn - dwi'n meddwl ei fod yn decach.

"Does dim sôn am ganlyniadau Pisa yma ar hyn o bryd. Mi roedd safonau'n bwnc trafod rhai blynyddoedd yn ôl ond ddim bellach.

"Beth sy'n dda fan'ma ydy bod y plant yn newid pynciau mor aml - maen nhw'n gwneud tymor, efallai, ac wedyn yn gallu newid. Ond maen nhw'n astudio mathemateg drwy'r amser.

"Mae pobl yn dweud bod Seland Newydd ar ei hôl hi hefo pethau, ond weithiau mae'r ffordd hen ffasiwn yn gweithio - mae staff yn yr ysgolion yma hefo amser i'r plant, ac mae problemau'n cael eu datrys yn gynt. Mae 'na bwyslais mawr ar be' sy'n digwydd y tu allan i'r dosbarth, ar hunan hyder a sut mae'r disgyblion yn ymwneud â phobl eraill.

"Dydy pawb ddim yn gorfod bod yn dda mewn mathemateg neu Saesneg, er enghraifft. Mae disgyblion yn cael tystysgrifau am bob mathau o bethau, gan gynnwys bod yn gwrtais neu helpu plant eraill."

YR ISELDIROEDD

Disgrifiad o’r llun,

Mae plant yn Yr Iseldiroedd yn tueddu i wneud mathemateg pen yn hytrach na ar bapur, yn ôl Heulwen Trienekens

Mae Heulwen Trienekens yn athrawes Ffrangeg mewn ysgol ryngwladol yn Yr Iseldiroedd. Mae'n byw ger dinas Utrecht, ac mae ganddi ddau o blant - mab 10 oed, a merch 13 oed sydd ar fin cychwyn yn yr ysgol uwchradd.

"Mae plant yma'n gwneud profion ddwywaith y flwyddyn - CITO ydy'u henwau nhw, maen nhw'n debyg i'r TASau. Maen nhw'n dechrau gyda phrofion anffurfiol yn bedair oed.

"Ond, ar y llaw arall, dydyn nhw ddim yn dechrau darllen yn ffurfiol tan dipyn yn hwyrach. Maen nhw'n cael eu paratoi yn dda at ddarllen, ac wedyn yn dechrau arni go iawn pan maen nhw tua chwech neu saith ac o fewn mis, maen nhw'n darllen yn dda iawn.

"Mae 'na lot fawr o sylw i safonau o fewn addysg ac maen nhw'n dechrau meddwl rwan a ddylen nhw roi llai o sylw i'r CITO.

"Ry'n ni yn clywed rhywfaint am y profion Pisa ac yn gwybod bod Yr Iseldiroedd yn tueddu i wneud yn eitha' da.

"Un peth sy'n wahanol bod rhaid i bawb wneud popeth tan eu bod nhw'n 18 - hynny yw, mae pawb yn astudio mathemateg, Iseldireg, gwyddoniaeth, iaith ac ati.

"Yn gyffredinol, dwi'n hapus gyda'r system addysg yma. Ond mae 'na rai pethau fyddwn i'n hoffi newid - y ffordd maen nhw'n dysgu mathemateg, er enghraifft. Dim ond un ffordd sydd o'i wneud e - mae lot o bwyslais ar mental arithmetic. Dydyn nhw ddim yn gadael iddyn nhw wneud syms ar bapur. Ond mae safon y mental arithmetic ar y cyfan yn uchel iawn o'r herwydd."

Fe fydd y canlyniadau Pisa diweddara' yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth, Rhagfyr 3.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol