Plismona lleol 'dan fygythiad', yn 么l Comisiwn Annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae plismona lleol "dan fygythiad" yng Nghymru a Lloegr, yn 么l adroddiad newydd fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun.
Bydd Comisiwn Annibynnol yr Heddlu'n dweud fod plismona ar lefel gymunedol yn diflannu a "bod rhaid ei achub".
Cafodd y comisiwn ei sefydlu gan y blaid Lafur yn 2011, dan arweiniad cyn gomisiynydd Heddlu Llundain, yr Arglwydd Stevens.
Dywed Llafur y byddan nhw nawr yn ymgynghori ar argymhellion yr adroddiad.
Bydd y comisiwn yn dweud fod "swyddogion yn diflannu oddi ar y strydoedd a bod yn rhaid achub plismona lleol".
Mae'n disgrifio'r model cymunedol fel "sail i system blismona deg ac effeithiol".
'Diflannu o'n strydoedd'
Yn 么l y comisiwn, mae ffigurau o Lyfrgell T欧'r Cyffredin yn dangos fod yna 10,000 yn llai o swyddogion rheng flaen yng Nghymru a Lloegr yn 2013 o'i gymharu 芒 2010 - sy'n ostyngiad o 8.3%.
Dywedodd yr Arglwydd Stevens - a gyflwynodd blismona cymunedol yn Llundain tra'n bennaeth rhwng 2000 a 2005 - y dylai pob ardal gael rhywfaint o blismona lleol.
Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Sunday Telegraph, rhybuddiodd yr Arglwydd Stevens fod swyddogion yn "diflannu o'n strydoedd".
"Dros y ddwy flynedd o ymgynghori'n annibynnol ar ddyfodol plismona, rydym wedi gweld fod plismona cymunedol dan fygythiad a bod yr heddlu mewn peryg o droi at fodel adweithiol, sydd wedi'i ddifr茂o," ysgrifennodd.
"Mae'r comisiwn yn glir eu barn mai plismona cymunedol ddylai fod yn sail i'r gwasanaeth."
Roedd yr Arglwydd Stevens hefyd yn feirniadol o raglen ad-drefnu'r llywodraeth, gan ei disgrifio fel un "ddryslyd", "tameidiog" a "di-gyfeiriad".
'System deg ac effeithiol'
Bydd yr adroddiad yn galw am "gyfres o safonau cenedlaethol o ran gwasanaethau heddlu, y dylai pawb fod yn gallu eu cael" ac y dylai pob heddlu "orfod eu darparu".
"Mae'r ardal leol yn dal i fod yn sylfaen hollbwysig ar gyfer system blismona deg ac effeithiol ac mae'n hanfodol fod plismyn yn weledol ac yn gallu ymateb yn lleol ar adeg pan fo cyfyngiadau ariannol", medd yr adroddiad.
Bydd hefyd yn argymell newid y gyfraith "i'w gwneud yn glir mai pwrpas plismona yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a lles y gymuned, trwy atal torcyfraith yn ogystal ag ymateb iddo."
Bydd yr adroddiad yn galw am gysylltiadau cryfach rhwng yr heddlu a sefydliadau eraill, gan gynnwys gadael i gymunedau a chynghorau gael mwy o lais wrth benderfynu ar flaenoriaethau plismona lleol.
Cyhoeddodd Llafur yr adolygiad yn ystod eu cynhadledd yn 2011, gan ddweud ei bod yn bryd cael "gweledigaeth o ddifri".
Y bwriad oedd creu comisiwn oedd heb unrhyw dueddiadau gwleidyddol, oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r heddlu, academyddion a barnwyr.
Dywedodd Nick Herbert, y gweinidog plismona ar y pryd, fod gan y llywodraeth "becyn synhwyrol o newidiadau" ar gyfer yr heddlu.
Dyw strwythur cyffredinol yr heddlu ddim wedi cael ei ystyried yn fanwl ers y comisiwn brenhinol yn 1962.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013