大象传媒

Dim fferm wynt ger arfordir y de

  • Cyhoeddwyd
Atlantic Array
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y datblygwr y gallai'r tyrbinau 222m (721 troedfedd) greu digon o drydan ar gyfer 900,000 o gartrefi

Mae'r 大象传媒 ar ddeall na fydd fferm wynt anferth arfaethedig ger arfordir de Cymru yn digwydd wedi'r cwbl.

Deellir bod y datblygwr, RWE Innogy, wedi tynnu n么l o gynllun i godi 240 o dyrbinau fel rhan o brosiect Atlantic Array.

Fe fyddai'r fferm wynt wedi cael ei lleoli o fewn 14 milltir i arfordir de Cymru ac o fewn 8 milltir i warchodfa natur Ynys Wair (Lundy).

Roedd y cynllun wedi cael ei feirniadu gan amgylcheddwyr oedd yn bryderus ar yr effaith ar fywyd gwyllt a bywyd morol ym M么r Hafren.

Doedd neb o RWE Innogy ar gael i wneud sylw ar y mater.

Fe fyddai'r tyrbinau wedi bod yn 220 meter (721 troedfedd) o uchder ac yn gallu cynhyrchu 1,200 MW o drydan - digon i oddeutu 900,000 o gartrefi yn 么l y datblygwr.

Dywedodd Golygydd Gwleidyddol De-Orllewin Lloegr i'r 大象传媒, Martyn Oates: "Mae ffynonellau wedi dweud wrthym na fydd hyn nawr yn digwydd oherwydd problemau i ariannu'r cynllun.

"Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Regen SW (corff ynni gwyrdd) bod cyhoeddiad llywodraeth y DU yn ddiweddar ei bod am dorri n么l ar gymorthdaliadau i gefnogi ynni gwyrdd eisoes wedi peryglu buddsoddiad yn y rhanbarth ac yn peryglu swyddi.

"Yn nhermau buddsoddiad a swyddi mae hwn yn gynllun mawr iawn."

Dywedodd Derek Green, rheolwr Ynys Ynys Wair: "Os yw hyn yn wir yna rydym wrth ein boddau.

"Mae'n newyddion gwych i dwristiaeth a bywyd gwyllt ym M么r Hafren, ac yn enwedig i Ynys Wair.

"Roedd hi'n bryder y byddai datblygiad mor agos at yr ynys yn gallu ei llyncu. Mae nifer o dyrbinau nad ydym wedi eu gwrthwynebu, ond rydym wedi dweud o'r dechrau y dylai ffermydd gwynt yn y m么r fod allan yn y m么r, ond roedd hwn yng nghanol M么r Hafren.

"Mae pawb angen trydan, ond mae lleoedd mwy priodol i'w greu."