Bryn Terfel yn perfformio yng ng诺yl Llangollen
- Cyhoeddwyd
Bryn Terfel a'r gantores jazz Caro Emerald yw rhai o'r perfformwyr fydd yn rhan o 诺yl Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen y flwyddyn nesaf.
Bydd y canwr opera yn chwarae'r brif ran mewn cynhyrchiad arbennig o'r ddrama Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street.
Yn ystod yr 诺yl bydd gwaith newydd y cyfansoddwr Karl Jenkins hefyd yn cael ei glywed am y tro cyntaf, sef yr Adiemus Colores.
Cynhyrchiad Sweeney Todd, gyda chast o Gymru, fydd yn cychwyn wythnos o berfformiadau ar ddydd Llun y 7fed o Orffennaf.
Ar y nos Fawrth bydd artistiaid rhyngwladol yn cymryd rhan mewn carnifal gyda phobl o fyd y syrcas yn gwneud triciau gan gynnwys Spellbound, enillwyr y rhaglen deledu Britain's Got Talent, ac acrobatiaid o China. Hon fydd seremoni agoriadol yr 诺yl hefyd.
Y tenor o America, Noah Stewart, fydd yn canu gwaith Karl Jenkins ar y nos Fercher, gyda cherddorfa'r eisteddfod yn cyfeilio.
G诺yl 'unigryw'
Tro Caro Emerald fydd hi nos Iau, a bydd cyngerdd nos Wener yn cynnwys cwmni opera o Cape Town a lleisiau eraill o Gymru.
Unwaith eto mi fydd gwobr y rhuban glas yn cael ei rhoi ar gyfer cystadleuaeth C么r y Byd, a'r enillwyr yn cipio 拢3,500 a thlws Pavarotti.
Dyma'r tro cyntaf i Bryn Terfel berfformio yn yr 诺yl ers sawl blwyddyn ac mae'n dweud ei fod yn edrych ymlaen:
"Dw i wrth fy modd fy mod yn medru ymddangos yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn 2014. 'Dw i'n Gymro balch ac mae'r Eisteddfod Ryngwladol yn un unigryw. Mae'r awyrgylch, y lliwiau, y gynulleidfa, hyd yn oed y blodau, mae o wir yn ddigwyddiad sbesial iawn iawn."
Dywedodd cyfarwyddwr cerddoriaeth yr 诺yl, Eilir Owen Griffiths: "Dw i'n gynhyrfus iawn am y rhai sydd yn perfformio blwyddyn nesaf a 'dw i'n siwr y byddan nhw'n plesio'r gynulleidfa.
"Rydyn ni wrthi'n gorffen gwneud trefniadau ar gyfer y cyngerdd olaf nos Sul ac mi fyddwn ni'n cyhoeddi pwy fydd yn arwain y noson honno yn fuan."
Mae tocynnau ar gael i'w prynu yn syth gan rai sydd gyda thocynnau tymor ac maen nhw'n mynd ar werth ar y we ar Ragfyr 20.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2013