Grant i wella cysylltiad band eang
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfle i fusnesau bach mewn 10 dinas dros Brydain dderbyn grantiau i wella cysylltiadau band eang.
Fel rhan o gynllun ehangach gwerth 拢100m, bydd cwmn茂au yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn cael gwneud cais am 拢3,000 er mwyn gwella eu cysylltiadau rhyngrwyd.
Gobaith y Prif Weinidog David Cameron yw galluogi i fusnesau sefydlu neu symud i unrhyw le dros y DU.
Y dinasoedd eraill sy'n rhan o'r cynllun yw Belfast, Salford, Portsmouth, Derby, Bryste, Caeredin, Llundain a Manceinion.
Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd gyda diwrnod busnesau bychain, cynllun sy'n hybu'r busnesau y mae Mr Cameron wedi dweud sy'n "cynnal ein heconomi".
'Hwb i'r wlad'
Dywedodd y Prif Weinidog bod y cyhoeddiad yn hwb mawr dros y wlad.
"Mae hyd at 拢3,000 mewn talebau i fusnesau bach yn y dinasoedd yma nid yn unig yn hwb i dwf yn y DU, ond mae'n galluogi i ni ddod a China i Gaerdydd, Brazil i Fryste a'r Emirates i Gaeredin mewn marchnad allforio mwy.
"Fel rhan o'n cynllun economi, rydw i am roi pob mantais posib i fusnesau bach gael cystadlu yn fyd-eang - a hefyd hyblygrwydd i sefydlu eu hunain dros y DU.
"I gwblhau hynny rydym yn gweithio ar newid llwyr i isadeiledd y DU; ac mae band eang cyflym yn rhan hanfodol o hynny.
"Ac ar ddiwrnod y busnesau bach, pa ffordd well o gefnogi cwmn茂au - sy'n cynnal ein heconomi - na rhoi'r offer angenrheidiol i'r 21ain ganrif."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013