大象传媒

Safonau yn brif thema y byd addysg yn 2013

  • Cyhoeddwyd
Neuadd arholiadFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgyblion Cymru ar ei h么l hi o hyd o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 么l astudiaeth ryngwladol.

Yn eu hadroddiad blynyddol ym mis Ionawr, mi osododd Estyn y them芒u fyddai'n parhau gydol 2013 o ran addysg yng Nghymru, safonau.

Dywedodd yr arolygwyr ysgolion eu bod yn poeni nad oedd digon yn cael ei wneud i gael y gorau o'n disgyblion disgleiriaf.

Ychwanegodd y corff arolygu nad oedd safonau'r ysgolion mor uchel 芒'r llynedd.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn o brofion a chanlyniadau yn llenwi'r penawdau.

Wedi gwneud i ffwrdd 芒 phrofion TASau bron i ddegawd yn 么l, ym mis Medi eleni mi ddechreuodd plant mor ifanc 芒 phump oed ar eu profion blynyddol unwaith yn rhagor.

Mae'n rhan o fframwaith rhifedd a llythrennedd y Llywodraeth.

Lefel A

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y tro diwethaf Cymru oedd y gwaethaf ymysg gwledydd Prydain

Y bwriad, yn 么l y llywodraeth ydy sicrhau y bydd dysgu rhifedd a llythrennedd yn rhan o bob gwers ar draws y cwricwlwm yn hytrach na dim ond yn ystod gwersi Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.

Roedd y canlyniadau lefel A yn siomedig ac yn "destun pryder" yn 么l y gweinidog addysg, Huw Lewis ar 么l i'n disgyblion fethu a chau'r bwlch rhyngom ni a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran graddau A*-A am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Daeth newyddion gwell o'r canlyniadau TGAU.

Ar y cyfan roedd y nifer wnaeth basio yn union fel y llynedd ar 98.7% gyda'r bwlch gyda'r gwledydd eraill yn cau ymhlith y graddau uchaf.

Gan fod yr arholiadau mathemateg a gwyddoniaeth yn anoddach na'r gorffennol, roedd y canlyniadau yn y pynciau yna yn is, yn 么l y disgwyl.

Ond mi roedd y canlyniadau yn ieithoedd modern yn llawer gwell na'r disgwyl.

Ddechrau mis Rhagfyr daeth y newyddion nad oedd neb am ei glywed o fewn y sector addysg yng Nghymru; am yr ail dro yn olynnol mi roeddem ni wedi llithro lawr y tablau addysg ryngwladol, PISA.

Pan gawsom ni ganlyniadau penodol i Gymru am y tro cyntaf n么l yn 2007 mi roedden nhw'n siomedig gan iddyn nhw ddangos bod ein perfformiad yn is na'r cyfartaledd rhyngwladol.

Wedyn, yn 2010 gyda chyhoeddi'r set nesaf o ganlyniadau roedd yna bryder gwirioneddol ar 么l i ni lithro yn bellach fyth lawr y tablau.

Mi ddilynodd newidiadau mawr i'n hysgolion. Ond doedd hynny ddim yn ddigon o atal y gwymp.

Pan gyhoeddwyd y canlyniadau, roedd Cymru yn bellach fyth ar ei h么l hi o gymharu 芒 gwledydd eraill Prydain, ac yn is nag erioed ar y lefel rhyngwladol.

Roedd y sg么r o 468 ym mathemateg eleni, er enghraifft yn sylweddol is na'r 484 gawsom ni yn 2007.

Mae hynny'n gwymp o 16 pwynt. Yn 么l sgoriau PISA, mae 20 pwynt gyfwerth a chwe mis o ysgol.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Huw Lewis ei benodi yn Weinidog Addysg ym mis Mehefin

'Colli gafael'

Dywedodd y gweinidog addysg, Huw Lewis fod y canlyniadau yn dangos fod angen i'r system addysg yma "godi i lefel uwch nag erioed" ond y byddai'r "rhaglen o newidiadau fwyaf pellgyrhaeddol erioed" i addysg yng Nghymru yn llwyddo i wneud hynny.

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn credu i ambell un o'i ragflaenwyr golli gafael ag elfennau mwy sylfaenol addysg, fel llythrennedd a rhifedd.

Dwi'n credu ei bod hi'n deg dweud na fyddai neb wedi gallu cyhuddo ei ragflaenydd, Leighton Andrews o hynny.

Ddiwedd Mehefin, ar 么l dwy flynedd a hanner yn y swydd, ymddiswyddodd Mr Andrews ar 么l ffrae gododd wedi iddo amddiffyn ysgol yn ei etholaeth oedd am gau o ganlyniad i'w bolisi yntau ar lefydd gwag.

Roedd lluniau o Mr Andrews yn dal baner yn cefnogi ysgol gynradd Pentre yn ei etholaeth, Rhondda.

Blwyddyn gwasgfa'r cwricwlwm oedd 2013.

O addysg gorfforol i gyfrifiaduron, hanes Cymru i'r celfyddydau, mi gyhoeddodd sawl adroddiad wedi eu comisiynu gan y llywodraeth.

Roedd un peth yn gyffredin ym mhob un ohonyn nhw; yr alwad i roi mwy o sylw, amser ac adnoddau i'w pwnc nhw drwy eu gwneud yn bwnc craidd.

Pynciau craidd

Dywedodd Huw Lewis fod pob un ohonyn nhw yn "ddarnau pwysig o waith".

Yr her iddo fo r诺an, wrth gwrs, ydy mai dim ond hyn a hyn o le sydd ar y cwricwlwm.

Felly mi fydd trio plesio pawb yn beth anodd dros ben.

Rhan arall y broblem, wrth gwrs, ydy eich bod yn tanseilio holl nod ac amcan pynciau "craidd" po fwyaf o bynciau sydd o fewn y crochan.

Mi gawn ni wybod yn y flwyddyn newydd beth yn union fydd ateb y gweinidog i'r broblem honno.

Cur pen arall i Mr Lewis yn y flwyddyn newydd fydd nifer yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru. Er, ychydig iawn o drafodaeth ymhlith rhieni wrth gi芒t yr ysgol sydd i'r pwnc.

Ond mae'r nifer gymharol uchel o awdurdodau cymharol fach yng Nghymru wedi cael y bai am fod math o wendidau yn ein system addysg; yn bennaf nad ydyn nhw'n ddigon mawr i allu rhoi'r math o arbenigedd fyddai o ddefnydd i ysgolion.

Tydi'r ffaith fod cynifer ohonyn nhw mewn mesurau arbennig gan Estyn ddim yn help chwaith.

Daeth adolygiad gan Robert Hill, fu'n cynghori Tony Blair am gyfnod, i'r casgliad bod angen cael gwared a thraean yr awdurdodau addysg gan adael rhyw 13.

O fewn yr adroddiad hefyd roedd cyfres o argymhellion eraill oedd, o bosib, yn fwy arwyddocaol.

Bydd mwy o bwyslais ar godi safonau athrawon gan gefnogi a dyrchafu'r athrawon gorau.

Lle bo ysgol yn llwyddo, gallai'r pennaeth fod yn gyfrifol am glwstwr o ysgolion, y cyfan yn ymgais i godi safonau.

Fel dywedais i ar y dechrau. Safonau oedd prif bwnc 2013.