大象传媒

Llywodraeth 'byth am werthu' maes awyr

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carwyn Jones wedi bod yn brif weinidog ers union pedair mlynedd

Ni fydd Llywodraeth Cymru fyth yn gwerthu Maes Awyr Caerdydd yn llwyr, yn 么l y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mewn cynhadledd i'r wasg i nodi pedair blynedd union ers iddo fod yn brif weinidog, dywedodd fod gwerth y maes awyr wedi codi ers i'r llywodraeth ei brynu.

Yn 么l Mr Jones mae ei werth wedi codi rhyw 拢3 miliwn ers ddiwedd mis Mawrth.

"Fydden ni byth yn ei werthu'n gyfan gwbl ond dydyn ni ddim eisiau ei redeg e," meddai Mr Jones.

"Mae gennym gwmni hyd braich yn rhedeg y maes awyr ond o ran datrysiad tymor hir i'r maes awyr, fel rydym wastad wedi dweud, rydym yn bwriadu dod a chwmni profiadol i fewn ac mae'r diddordeb yna."

Dywedodd fod trafodaethau wedi dechrau rhwng y llywodraeth a cwmni - sy'n ddi-enw ar hyn o bryd - ar gyfer trosglwyddo rheolaeth o'r maes awyr yn y tymor canolig.

'Sarhad'

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud nad yw'n dderbyniol peidio ei werthu oherwydd byddai hynny'n golygu na fyddai trethdalwyr Cymru'n derbyn gwerth eu buddsoddiad yn 么l.

Dywedodd eu llefarydd trafnidiaeth Byron Davies: "Mae honni na fydd y maes awyr byth yn cael ei werthu yn sarhad i drethdalwyr Cymreig.

"Byddai'n golygu na fydd yr un ohonan ni yn gweld elw ar yr arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd i'w brynu; dim byd llai na gwarth cenedlaethol."

Fe brynodd y llywodraeth y maes awyr n么l ym mis Mawrth eleni am 拢52 miliwn yn dilyn blynyddoedd o ddirywiad yn nifer y bobl oedd ei ddefnyddio. Yn 2007 aeth dros ddwy filiwn o bobl drwy ei ddrysau ond erbyn 2012 roedd y nifer yno wedi haneru.

Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud yn y gorffennol nad ydyn nhw'n gwrthwynebu'r gwladoli mewn egwyddor ond eu bod nhw eisiau mwy o fanylion yngl欧n 芒 sut mae'r llywodraeth yn bwriadu ei redeg.