Galw am adroddiad ar wasanaethau iechyd yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi galw am adroddiad ar ddyfodol gwasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru.
Daw penderfyniad Mark Drakeford wedi iddo gwrdd ag AC Ceredigion Elin Jones a phwyllgor o uwch glinigwyr o Geredigion a Phowys.
Fe wnaethon nhw annog y gweinidog i ystyried anghenion penodol yr ardal wledig a'r boblogaeth wasgaredig wrth gynllunio gwasanaethau iechyd y dyfodol.
Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn i Fyrddau Iechyd Hywel Dda a Phowys am ymateb.
Cadarnhaodd Mr Drakeford ei fod wedi penderfynu comisiynu darn annibynnol o waith ymchwil i strwythur gwasanaethau iechyd yn y dyfodol, mewn llythyr anfonwyd at Ms Jones ar Ragfyr 19.
'Ardal wledig'
Meddai Ms Jones, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Rwyf wedi'm calonogi gan ymateb positif y gweinidog iechyd i'r pwyllgor o glinigwyr y gwnaeth eu cyfarfod fis diwethaf.
"Mae'r penderfyniad hwn yn cadarnhau bod y gweinidog yn derbyn yr anghenion penodol sydd gan ysbyty gwledig a'r ardal leol.
"Mae bwlch enfawr rhwng yr ysbytai ar goridorau'r M4 a'r A55 yng Nghymru, a dim ond Bronglais sydd rhyngddynt.
"Dydy'r atebion sy'n berthnasol i ardaloedd dinesig ddim wastad yn gweithio i ni.
"Rydym ni'n wynebu heriau anferth dros broblemau yn cynnwys denu staff i Ysbyty Bronglais, sicrhau y gall meddygon teulu hyfforddi yn lleol a chael eu penodi pan fo meddygon h欧n yn ymddeol, a sut mae'r GIG yng Nghymru'n rhyngweithio 芒 gwasanaethau eraill mewn ardal wledig.
"Mae'n hanfodol bod y gwaith ymchwil hwn yn annibynnol, ac yn ymgynghori 芒 meddygon lleol."
Daw'r datblygiad hwn wedi i Gyngor Ceredigion bleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda fis Rhagfyr eleni.
Roedd hynny'n dilyn penderfyniad y bwrdd iechyd i gau rhai gwelyau yn Ysbyty Cymunedol Aberteifi.
Bydd yr ysbyty'n parhau i fod ar agor i gleifion allanol, ond bydd gwelyau'n cael eu darparu gan gartrefi gofal yn y gymuned.
Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu na fydd gwelyau'n cael eu colli, wrth iddyn nhw gynllunio i agor ysbyty newydd.
Fe darwyd bargen i agor ysbyty gwerth 拢20m yn y dref yn y dyfodol, fydd yn cynnwys meddygfa.
Ers y penderfyniad, mae mwy na 2,500 o bobl wedi arwyddo deiseb i rwystro penderfyniad y bwrdd iechyd.
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y Gweinidog Iechyd yn comisiynu arolwg i ymchwilio i'r problemau a dod o hyd i atebion posibl er mwyn darparu gwasanaethau hygrych, diogel, uchel eu safon a chynaliadwy i drigolion canolbarth Cymru.
"Mae disgwyl i'r gweinidog gyhoeddi rhagor o fanylion yn y Flwyddyn Newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013