Diffoddwyr t芒n yn streicio am chwe awr arall
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr t芒n Cymru wedi dechrau ar streic chwe awr rhwng 6:30pm nos Fawrth a 12:30am Ddydd Calan.
Hon yw'r wythfed streic yn yr anghydfod rhwng aelodau Undeb y Frig芒d D芒n a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae gweinidogion wedi dweud bod gweithredu dros y gwyliau'n "gam sinigaidd" a bod cynlluniau cadarn wrth gefn.
Y tro diwethaf iddyn nhw streicio oedd Noswyl Nadolig ac mae bwriad i weithredu ar Ionawr 3.
Mae'r undeb yn anhapus gyda chynlluniau'r llywodraeth i godi'r oed ymddeol o 55 i 60, gan honni bod y math o waith mae diffoddwyr yn ei wneud yn golygu bod gweithwyr h欧n yn ei chael hi'n anodd oherwydd y safonau ffitrwydd.
Yn gadarn
Dywedodd ysgrifennydd yr undeb yng Nghymru, Cerith Griffiths, fod cefnogaeth i'r streic yn gadarn.
"Does dim un ohonon ni eisiau streicio amser hyn o'r flwyddyn ond rydyn ni'n teimlo ein bod ni mewn cornel oherwydd y llywodraeth."
Ychwanegodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Matt Wrack: "I'n haelodau dim ond diwrnod arall o waith ydi'r Nadolig ac maen nhw wedi bod yn delio gyda'r stormydd, llifogydd ac argyfyngau eraill bob diwrnod.
"... i ddiffoddwyr sy'n gweithio dros y gwyliau does ganddyn nhw ddim llawer i'w ddathlu y flwyddyn yma oherwydd eu bod yn cael eu prisio allan o'u pensiynau ac yn wynebu colli eu swyddi oherwydd nad yw'r llywodraeth yn gallu derbyn bod dynion a merched 60 oed yn methu cyrraedd yr un safonau ffitrwydd 芒 diffoddwr 20 oed."
Yn 么l yr undeb, mi fydd o leiaf ddau o bob tri diffoddwr yn wynebu colli gwaith neu leihad yn eu pensiwn oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cadw at safonau ffitrwydd ar 么l 55 oed.
'Ddim o ddifri''
Dywedodd Brandon Lewis AS y Gweinidog t芒n; "Fe wnes i gyfarfod gyda'r undeb Noswyl Nadolig ond mae'r gweithredu yma heddiw yn dangos nad ydyn nhw o ddifri' o ran datrys yr anghydfod.
"Mae'r cynnig ar y bwrdd i'r diffoddwyr yn un o'r pecynnau pensiwn gorau yn y sector gyhoeddus.
"Gall diffoddwr t芒n sydd yn ennill 拢29,000 ac yn ymddeol ar 么l gyrfa lawn yn 60 oed dderbyn 拢19,000 y flwyddyn mewn pensiwn sy'n codi i 拢26,000 gyda phensiwn y wladwriaeth ar ei ben.
"Mi fuasai rhaid i bensiwn tebyg yn y sector breifat fod yn werth dros 拢500,000 a buasai'r diffoddwyr yn gorfod rhoi dwywaith gymaint i mewn iddo."
Mi fydd streic arall ar Ionawr 3 rhwng 6.30pm ac 8.30pm,
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2013
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2013