大象传媒

Gwella band eang yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Fibre-optic cable, EyewireFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd cynllun BT yn dechrau yn ardal Aberystwyth yn Ebrill 2014

Mae'r sir sydd 芒'r band eang salaf yng Nghymru yn ceisio gwella'r sefyllfa wrth i wasanaeth newydd ddechrau yn 2014.

Dim ond Ynysoedd Sili a rhai ynysoedd yn yr Alban ac sydd 芒 band eang sy'n waeth na Cheredigion yn y DU gyfan yn 么l .

Mae mwy nag un o bob pum eiddo yn y sir gyda chyflymder band eang o lai na 2 megabit yr eiliad.

Bydd cwmni BT Openreach yn dechrau lledaenu'r system newydd yn ardal Aberystwyth yn Ebrill 2014.

Mae'r cwmni hefyd yn gobeithio gwella band eang i holl ysgolion y sir.

'Pwysig dros ben'

Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, y cynghorydd Ellen ap Gwynn, bod gan yr ysgolion y deunydd angenrheidiol i dderbyn band eang cyflym, a'u bod yn awyddus i wneud hynny.

"Fe fydd hyn yn bwysig dros ben i unigolion a busnesau yn y sir wledig hon hefyd," meddai.

Ac ychwanegodd cadeirydd Siambr Fasnach Aberystwyth, Chris Mackenzie-Grieve, bod band eang yn rhy ara' deg yn nifer o bentrefi'r sir gan ddweud:

"Bydd hyn yn newyddion da i bobl sy'n gweithio o adref, ond dydw i ddim yn si诺r os fydd hyn cystal 芒 rhwydwaith trenau a bysiau da i wasanaethu'r sir."

Datgelodd adroddiad diweddar gan Ofcom bod 21.7% o'r holl eiddo yng Ngheredigion 芒 chyflymder band eang o lai na 2Mbit/eiliad.

Dywedodd hefyd bod gan Gymru y canran isaf o eiddo yn y DU gyda mynediad at fand eang cyflym iawn. Yn 么l yr adroddiad 48% sy'n medru derbyn gwasanaeth o'r fath yng Nghymru o gymharu 芒 chyfartaledd o 73% ar draws y DU.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol