Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
BMJ yn codi cwestiynau yngl欧n 芒 lob茂o'r diwydiant alcohol
Mae ymchwiliad gan gylchgrawn meddygol y BMJ yn honni fod y diwydiant alcohol wedi cael gormod o gyfle i gyfathrebu gyda'r llywodraeth yn San Steffan, tra'u bod nhw'n ystyried gosod isafswm pris ar alcohol.
Mae dogfennau yn dangos bod y diwydiant wedi cael 130 o gyfarfodydd gyda'r adran iechyd ers yr etholiad.
Mae doctoriaid ac ymgyrchwyr iechyd yn poeni fod hynny wedi dylanwadu ar benderfyniad Llywodraeth San Steffan i roi'r gorau i'w cynlluniau fis Gorffennaf diwethaf.
Yn ol Andrew Missel o elusen Alcohol Concern Cymru mi oedd y diwydiant alcohol wedi dangos gwrthwynebiad clir.
Diwydiant yn poeni
"Da ni yn gwybod bod y diwydiant alcohol yn poeni yn arw iawn am y syniad yma o osod isaf bris ar gyfer alcohol.
"Ar y dechrau dw i'n meddwl oedden nhw yn wfftio'r syniad a dweud fyse fe ddim yn gweithio. Ond mae'n amlwg bod nhw yn pryderu y byddai'r mesur yn gweithio, sef lleihau faint o alcohol sydd yn cael ei werthu, neu fydden nhw ddim wedi gweithio mor galed yn ei erbyn."
Er hynny dywedodd Andrew Missel ar y Post Cyntaf bod nifer o sefydliadau erbyn hyn yn lob茂o ac yn trio dylanwadu ar benderfyniadau pobl mewn grym.
Ond dywedodd bod yna dro pedol wedi bod gan y llywodraeth gyda nifer yn credu y byddai'r isafswm yn cael ei gyflwyno.
"Mae rhywbeth wedi newid ym mhennau pobl a dydyn ni ddim yn gwybod ydy hynny yn gyfuniad o bwysau gan y diwydiant diodydd, falle pwysau gan rhai etholwyr.
"Mi oedd rhai aelodau eraill o'r cabinet o'r blaid Geidwadol yn llugoer iawn am y mesur o'r dechrau un."
Hawdd cysylltu efo gwleidyddion
Mae Lleu Williams yn gweithio yn y maes lob茂o ers chwe blynedd. Mae'n cydnabod bod nifer y cyfarfodydd yn ymddangos yn ffigwr uchel.
Ond mae'n dweud bod angen gofyn faint o gyfarfodydd fuodd yna rhwng yr ymgyrchwyr iechyd oedd o blaid isafswm pris ar alcohol.
"Cwestiwn ehangach yw pwy mor hawdd yw e i bobl gael mynediad i wleidyddion.
"Mae'r ffigwr i weld yn eithaf trawiadol. Ond yn sg卯l y llun mwy ydy e yn ddigon hawdd i bobl gael mynediad i wleidyddion ac i rheiny sydd yn llunio deddfau a rheiny sydd yn llunio proses deddfu? Bydden ni yn dadlau bod e."