Cannoedd mewn cyfarfod iechyd

Ffynhonnell y llun, 大象传媒

Disgrifiad o'r llun, Daeth cannoedd i'r cyfarfod yn Ysgol Penweddig

Roedd tua thri chant, gan gynnwys Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol, mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth er mwyn trafod darpariaeth iechyd yn y canolbarth.

Ysbyty Bronglais, Aberystwyth oedd prif destun y trafod oherwydd bod yr ysbyty'n cael trafferth recriwtio doctoriaid yno.

Yn ogystal, mae'r ardal ehangach yn ei chael hi'n anodd penodi meddygon teulu i weithio yno.

Cafodd penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gau Ysbyty Cymunedol Aberteifi hefyd ei drafod.

Nid oedd neb o'r bwrdd iechyd yn bresennol ond maen nhw wedi anfon datganiad ysgrifenedig, sydd wedi ei ysgrifennu ar y cyd gyda'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, i'r trefnwyr.

Galw adolygiad

Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan Gyngor Tref Aberystwyth yn dilyn penderfyniad Mr Drakeford i ofyn am adroddiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yn y canolbarth.

Penderfynodd Mr Drakeford fod angen adolygiad yn dilyn trafodaethau gydag AC Ceredigion Elin Jones a nifer o uwch-glinigwyr o Geredigion a Phowys, a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr.

Yn ddiweddar fe ddywedodd Mark Williams AS wrth ei fod yn pryderu am ddyfodol y gwasanaeth fydd yn cael ei gynnig o ysbyty Aberteifi, yn dilyn cyfarfod gyda'r bwrdd iechyd.

Dywedodd: "Cafodd ei wneud yn glir i gynrychiolwyr Hywel Dda pa mor bryderus yw pobl Aberteifi yngl欧n 芒'r golled o welyau yn eu hysbyty, rhywbeth bydd y ddeiseb yn wneud yn gwbl glir.

"Fe wnes i adael y cyfarfod yn aneglur gyda dim sicrwydd y bydd gwelyau yn parhau ar y safle. Rwy'n ofni na fydd."

Mae'r ddeiseb mae Mr Williams yn cyfeirio ati yn galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i beidio ag "israddio" gwasanaethau iechyd yn y canolbarth ac i sicrhau bod ysbyty Aberteifi'n parhau i ddarparu'r un gwasanaethau yn y dyfodol.

'Darganfod y gwir'

Ym mis Hydref daeth i'r amlwg bod llawdriniaethau yn Ysbyty Bronglais wedi eu gohirio oherwydd bod diffyg staff yno, ac fe ddywedodd Hywel Dda eu bod yn bwriadu cael gwared ar chwech o welyau.

Un o drefnwyr y cyfarfod yw Mererid Jones sy'n gynghorydd tref yn Aberystwyth.

Dywedodd: "Bwriad y cyfarfod yw darganfod y gwir tu 么l i gynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Ngheredigion.

"Mae heriau yngl欧n 芒 sut i ddenu staff i Ysbyty Bronglais a sut i gynnal gwasanaethau mewn ardal wledig.

"Mae pryderon hefyd bod ymgyrchu di-baid dros wasanaethau yn ei gwneud hi'n anodd i ddoctoriaid yn Ysbyty Bronglais.

"Bydd pobl eraill eisiau gwybod mwy am y cynlluniau i gau Ysbyty Gymunedol Aberteifi i gleifion preswyl."

Fe wnaeth Cyngor Ceredigion basio cynnig o ddiffyg hyder yn y bwrdd iechyd ym mis Rhagfyr.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud y bydd ysbyty Aberteifi'n parhau i dderbyn cleifion allanol ond y bydd gwelyau yn cael eu darparu o fewn cartrefi nyrsio yn y gymuned.

Ysbyty newydd

Yn 么l y bwrdd iechyd ni fydd gostyngiad yn nifer y gwelyau yn y sir gan y bydd ysbyty newydd yn cael ei hadeiladu

Mae ysbyty gwerth 拢20 miliwn i fod i gael ei hagor yn y dref yn y dyfodol fydd yn cynnwys meddygfa.

Cafodd gr诺p o'r enw Arbed Bronglais Emergency (aBer) ei ffurfio er mwyn protestio'n erbyn y bwriad i newid y gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais 'n么l yn 2006.

Mae'r meddyg teulu Dr William Roberts yn aelod o'r gr诺p, a dywedodd: "Mae'r broblem o ran denu meddygon teulu i ganolbarth Cymru'n dod yn fwy o broblem oherwydd gwaith trwm a biwrocratiaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Rydym yn croesawu cyhoeddiad diweddar y gweinidog am ddarn annibynnol o waith er mwyn ystyried materion pwysig ac atebion posib ynghylch darpariaeth o wasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru.

"Rydym yn credu y bydd hwn yn ddarn o waith wnaiff helpu'r cynllun gwasanaethu mewn ffordd bwysig ac y bydd yn ganolog o ran cyfeiriad gwasanaethau yn y dyfodol i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yng Ngheredigion, gogledd Powys a de Gwynedd."