Taliadau prif weithredwr yn 'anghyfreithlon'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Archwilydd bod taliadau i swyddogion Cynghorau Sir Penfro a Sir Caerfyrddin yn anghyfreithlon

Roedd taliadau i uwch-swyddogion cynghorau Sir Caerfyrddin a Sir Penfro yn "anghyfreithlon", yn 么l Swyddfa Archwilio Cymru.

Dywedodd yr Archwilydd, Anthony Barrett bod cyfanswm o dros 拢100,000 ei wario gan y cynghorau yn anghyfreithlon.

Mewn dau adroddiad damniol, dywedodd Mr Barrett nad oedd gan yr un o'r ddau gyngor y p诺er i roi taliadau ariannol i'r prif weithredwyr, Mark James a Bryn Parry Jones, a swyddogion eraill, yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, a hynny er mwyn rhesymau treth.

Dywedodd yr archwilydd bod Cyngor Sir G芒r hefyd wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy roi indemniad i'r Prif Weithredwr, Mark James.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a Sir Penfro wedi gwrthod bod y taliadau yn anghyfreithlon, a dweud y bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried maes o law.

Taliadau am resymau treth

Roedd uwch-swyddogion wedi cael caniat芒d i dynnu'n 么l o gynllun pensiwn yn Sir Caerfyrddin a Sir Penfro, a hynny am resymau treth.

Yn hytrach na derbyn cyfraniad eu cyflogwr i'w pensiwn, roedd y swyddogion yn derbyn arian o'r un gwerth i wneud "trefniadau eu hunain".

Roedd 拢27,000 wedi ei roi i'r Prif Weithredwr yn Sir G芒r, Mark James, ers 2012.

Yn Sir Penfro, dywedodd yr archwilydd y byddai 拢51,011 wedi ei dalu i'r Prif Weithredwr, Bryn Parry Jones, ac un uwch-swyddog arall erbyn diwedd Mawrth 2014.

'Anghyfreithlon'

Yn 么l yr archwilydd, roedd y taliadau yn anghyfreithlon gan nad oedd gan y cynghorau'r p诺er i'w gwneud.

Dywedodd hefyd bod uwch-swyddogion wedi bod yn bresennol mewn cyfarfodydd i drafod materion lle'r oedd ganddyn nhw fudd personol ac ariannol.

Dylai hynny fod wedi golygu nad oedd y bobl hynny yn gymwys i fod yn rhan o'r broses o wneud y penderfyniad.

Yn Sir Penfro, roedd y prif weithredwr yn y cyfarfodydd lle cafodd y taliadau eu cymeradwyo, ac ef oedd yr unig aelod o uwch staff i'w hawlio.

Pan gafodd y taliadau eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin, nid oedd yr eitem ar agenda'r cyfarfod, ac nid oedd ar gael i aelodau'r cyhoedd ei weld.

Er hynny, mae'r cynghorau wedi dweud nad yw'r taliadau yn eu hanfod yn anghyfreithlon.

Indemniad achos enllib

Yn ogystal, yn Sir G芒r, roedd y cyngor wedi penderfynu rhoi indemniad i Mark James, wrth iddo ddwyn gwrth-hawliad ynghylch achos enllib yn erbyn blogwraig, Jacqui Thompson.

Hyd yn hyn mae 拢26,000 wedi ei dalu mewn costau cyfreithiol yn ymwneud 芒'r achos, ac fe all y swm gynyddu gan fod yr achos yn parhau.

Penderfynodd yr archwilydd bod "diffygion yn perthyn i'r prosesau a fabwysiadwyd gan y Cyngor wrth wneud y penderfyniad".

Mewn datganiad, dywedodd yr Archwilydd Penodedig a'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Anthony Barrett: "Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithredu'n anghyfreithlon yng nghyswllt dau fater sylfaenol y mae angen i'r cyhoedd fod yn hollol ymwybodol ohonynt.

"Mae'r awdurdod wedi cymryd penderfyniadau ac wedi defnyddio arian trethdalwyr mewn meysydd lle nad oedd ganddo'r pwerau cyfreithiol i wneud hynny."

Yn siarad am Gyngor Sir Penfro, dywedodd Mr Barrett: "Mae Cyngor Sir Penfro wedi gweithredu yn anghyfreithlon ac mae angen diddymu'r penderfyniad am bensiynau a stopio unrhyw daliadau pellach i uwch-swyddogion.

"Dylai'r cyhoedd fedru disgwyl y safonau uchaf wrth wneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol ac mae angen i'r cyngor nawr ddelio gyda gwendidau yr wyf wedi amlygu yn yr adroddiad."

Ymateb

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dweud eu bod yn croesawu penderfyniad yr Archwilydd nad oedd eu polisi yn anghyfreithlon, ond y broses o'i weithredu.

O ran yr indemniad, dywed y cyngor bod eu cyngor cyfreithiol nhw yn dangos bod rhoi indemniad yn dderbyniol.

Dywedodd llefarydd: "Rydym o'r farn ein bod ni wedi ymddwyn yn gyfreithiol ac mewn ffordd briodol, fel y dylai unrhyw gyflogwr."

Dywedodd Cyngor Sir Penfro hefyd y byddai'r adroddiad yn cael ei ystyried yn y man, ac ychwanegodd y Cynghorydd Rob Lewis: "Mae'r adroddiad yn delio gyda nifer o faterion cymhleth.

"Tra fy mod yn nodi barn yr archwilydd yn ymwneud 芒'r penderfyniadau gafodd eu cymryd, rydw i'n falch ei fod wedi dod i gasgliad y gallai'r cyngor wneud penderfyniad cyfreithlon unwaith y mae nifer o faterion trefniadol wedi eu gwella."

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael gwybod am yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac er nad yw'r mater wedi ei gyfeirio atyn nhw, eu bod mewn trafodaethau gyda'r archwilydd.

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod yr adroddiad yn achos pryder.

"Mae canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn peri pryder mawr, ac yn codi ar adeg y mae gwasanaethau rheng flaen o dan fygythiad, gyda staff gwerthfawr a gweithgar yn y sector cyhoeddus yn wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi neu rhewi cyflogau yn y tymor hir," meddai Darren Millar.

"Nawr yn fwy nag erioed, dylai uwch-reolwyr fod yn arwain drwy osod esiampl a thrwy gael gwerth llawn o bob punt o arian cyhoeddus a gaiff ei gwario."

Galw am ddiswyddiadau

Mae AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas yn galw am ddiswyddiadau yn sgil canfyddiadau'r Swyddfa Archwilio.

"Does dim ffordd y gall y cyngor anwybyddu dau adroddiad niweidiol iawn.

"Mae hwn yn ddiwrnod tywyll iawn i Sir Caerfyrddin, ac yn esiampl o'r hyn sy'n digwydd pan mae swyddog gweithredol gwan a chyngor sy'n cael ei reoli gan swyddogion na chafodd eu hethol.

"Mae camymddygiad y swyddogion oedd yn rhan o'r broses o ffurfio'r adroddiad (i roi indemniad) wedi dod 芒 gwarth ar enw'r cyngor a dylai hynny olygu diswyddiadau ar unwaith."

Dywedodd Janet Finch-Saunders AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol, bod yr adroddiadau yn dangos yr angen am adolygiad o gyflogau i uwch-swyddogion cynghorau yng Nghymru.

"Mae trethdalwyr yn disgwyl i gynghorau sydd i fod yn wynebu toriadau, i wario arian cyhoeddus mewn modd cynnil 芒 thalu staff yn deg ac o fewn y gyfraith.

"Mae'r adroddiadau yma yn dystiolaeth bellach bod angen adolygiad dros Gymru o gyflogau mewn awdurdodau lleol, sydd allan o reolaeth ac yn methu a rhoi gwerth am arian i deuluoedd sy'n gweithio'n galed."

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar lywodraeth leol bod y ffaith bod dau gyngor wedi ymddwyn yn anghyfreithlon yn bryderus iawn.

"Mae'r ddau gyngor wedi gwneud camgymeriadau difrifol ac mae angen iddyn nhw eu cywiro ar unwaith," meddai Peter Black AC.

"Dylai Cyngor Sir Caerfyrddin newid ei benderfyniad i roi indemniad i'r prif weithredwr, tra bod angen i Gyngor Sir Penfro newid ei benderfyniad am bensiynau a stopio unrhyw daliadau pellach i swyddogion."