Cymru i wahardd e-sigarennau?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn pryderu bod sigarennau electroneg yn ail-normaleiddio ysmygu.
Mae'n credu bod dadl gref dros eu rheoleiddio, ac efallai hyd yn oed eu gwahardd rhag cael eu defnyddio mewn llefydd cyhoeddus.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics y 大象传媒 ei fod yn "bryderus iawn" yngl欧n 芒'r teclynnau, sy'n cael eu galw yn 'e-sigarennau'.
Mae deddfwriaeth yn cael ei ystyried yn San Steffan ar hyn o bryd fyddai'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon i'w gwerthu i blant, a bydd y Cynulliad yn pleidleisio ddydd Mawrth ar ymestyn y gwaharddiad hwn i Gymru.
Ond dyw Llywodraeth Cymru heb ddiystyru'r posibiliad o gymryd camau pellach i reoli eu defnydd. Dywedodd y gweinidog iechyd y byddai'n disgwyl nes gweld y dystiolaeth cyn gwneud penderfyniad.
'Pryderu'n fawr'
Er gwaetha'i bryderon, roedd Mr Drakeford yn cydnabod y gallai e-sigarennau fod o fudd i rai sydd eisoes yn ysmygu tobaco.
Y broblem yw y gallan nhw weithredu fel ffordd o gyflwyno pobl i ysmygu.
"Rwy'n pryderu'n fawr bod y symudiad e-sigarennau yn ail-normaleiddio ysmygu ac yn ei wneud yn ffasiynol unwaith eto," meddai Mr Drakeford.
Gan fod ysmygu wedi ei wahardd mewn llefydd cyhoeddus yng Nghymru ers 2007, gofynodd cyflwyddyn Sunday Politics Dan Davies i Mr Drakeford os dylai'r gwaharddiad hwn gynnwys e-sigarennau.
"Rwy'n credu bod dadl gref iawn dros wneud hynny," meddai.
"Os ydych yn byw yn Seland Newydd er enghraifft, yr unig le i brynu e-sigarennau yw mewn fferyllfa oherwydd eu bod nhw'n cael eu trin fel mater iechyd, ac fel moddion.
"Mae pethau y gallwn ni wneud yma'n Nghymru, ac rydym eisiau ymchwilio i hynny gyda'r cyhoedd."
'Disgwyl am y dystiolaeth'
Mae'n bosib y bydd rheolau newydd yn cael eu cynnwys wrth i'r llywodraeth lunio deddf iechyd cyhoeddus newydd.
"Ond rydw i eisiau aros yn gyntaf, i weld be mae'r dystiolaeth yn ddweud," meddai'r gweinidog.
"Dydw i ddim eisiau pasio barn cyn gweld y dystiolaeth... os oes angen deddfu yna fe wnawn ni ddeddfu yng Nghymru."
Yn y cyfamser, mae'r llywodraeth yn rhedeg ymgyrch i geisio dwyn persw芒d ar bobl roi gorau i ysmygu yn y car os oes plant yn bresennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013