大象传媒

AS yn galw am ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Cyngor Sir CaerfyrddinFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor yn dweud bod rhaid gwneud arbedion

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys yn gofyn iddo ystyried ymchwilio a oes yna gamymddwyn posib wedi bod mewn swydd gyhoeddus o fewn Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Daw hyn yn sgil adroddiadau beirniadol Swyddfa Archwilio Cymru oedd yn dweud bod y cyngor wedi gwario dros 拢50,000 heb yr awdurdod i wneud hynny.

Dywedodd Mr Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ei fod wedi cymryd y cam er mwyn amddiffyn buddiannau trethdalwyr Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y cyngor sir nad oedd yna ymddygiad amhriodol o unrhyw fath wedi bod a bod yr awdurdod wedi ymddwyn yn briodol ac yn gyfreithlon.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ddau adroddiad yn ymwneud 芒 thaliadau i uwchswyddogion yng nghynghorau Caerfyrddin a Phenfro.

Dim hawl

Dywedodd yr adroddiadau nad oedd gan y cynghorau yr hawl i wneud taliadau o'r fath.

Mewn dau adroddiad dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Anthony Barrett nad oedd gan yr un o'r ddau gyngor y p诺er i roi taliadau ariannol i'r prif weithredwyr, Mark James a Bryn Parry Jones, a swyddogion eraill, yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, a hynny er mwyn rhesymau treth.

Dywedodd yr archwilydd fod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymddwyn yn anghywir drwy roi indemniad i'r prif weithredwr.

Ddydd Llun cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys eu bod mewn cysylltiad gyda llu arall a Gwasanaeth Erlyn y Goron yngl欧n 芒'r mater.

"Fe all Heddlu Dyfed Powys gadarnhau ein bod yn ymwybodol o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru."

Mae'r ddau gyngor sir wedi gwrthod yr honiad eu bod wedi gweithredu y tu hwnt i'w pwerau, gan ychwanegu bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried maes o law.