ASau'n cefnogi gwahardd smygu mewn ceir
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau seneddol wedi cefnogi'r alwad am wahardd ysmygu mewn ceir yng Nghymru a Lloegr pan mae plant yn bresennol yn y cerbyd.
Fe wnaethon nhw bleidleisio o blaid gwelliant gan y blaid Lafur o'r Mesur Plant a Theuluoedd o fwyafrif o 269.
Fe fydd hyn yn rhoi'r hawl i'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt i gyflwyno gwaharddiad yn Lloegr, ond ni fydd y bleidlais yn golygu newid yn y gyfraith yn syth.
Mae'r gwelliant yn galluogi - ond nid yn gorfodi - y llywodraeth i'w gwneud yn drosedd i yrwyr ysmygu tra'n gyrru gyda phlentyn yn y car.
Pasiwyd y cynnig o 376 pleidlais i 107.
Trosglwyddo pwerau
Yr wythnos ddiwethaf fe bleidleisiodd y Cynulliad o blaid cynnig gan Lywodraeth Cymru y dylid rhoi'r gair olaf ar y mater i i San Steffan wrth gefnogi'r gwaharddiad.
Yn dilyn y bleidlais nos Lun, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi dweud yn gyson y byddwn yn ystyried y posibilrwydd o ddeddfwriaeth unwaith y byddwn wedi gwerthuso effaith yr ymgyrch yn llawn.
"Rydym wedi comisiynu astudiaethau ar effaith mwg ail law ar blant mewn ceir, ac fe fydd y canlyniadau ar gael yn ddiweddarach eleni."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd San Steffan:
"Mae mwg ail law yn niweidiol i blant ac mae'n iawn fod hyn wedi ei drafod yn Nh欧'r Cyffredin. Fe fyddwn ni nawr yn ystyried sut y dylid symud ymlaen 芒'r gwelliant."
Mae gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir lle mae plant yn bresennol eisoes yn weithredol mewn rhai gwledydd megis Awstralia, Canada, De Affrica a'r Unol Daleithiau.
Ond mae rhai yn gwrthwynebu gwaharddiad yma, a dywedodd Simon Clark - cyfarwyddwr y gr诺p dros hawliau ysmygwyr Forest - bod ysmygu mewn ceir gyda phlant yn "anystyriol" ond bod "ffin na ddylai'r wladwriaeth groesi pan mae'n dod yn fater o orchymyn sut y dylai pobl ymddwyn mewn mannau preifat".
Yn yr Alban mae'r ASA Jim Hume wedi awgrymu y bydd yn cyflwyno mesur yn ddiweddarach eleni i geisio creu gwaharddiad, ac mae gweinidog iechyd Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi cynlluniau am ymgynghoriad ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014