Prif weithredwr cyngor sir yn camu o'r neilltu
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cadarnhau y bydd y prif weithredwr Mark James yn camu o'r neilltu tra bod ymchwiliad yr heddlu i daliadau yn cael ei gynnal.
Mewn datganiad dywedodd arweinydd y cyngor Kevin Madge na fyddai Mr James yn y gwaith wrth i Heddlu Swydd Gaerloyw ymchwilio i ganfyddiadau adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.
Roedd adroddiad wedi honni bod taliadau i Mr James yn "anghyfreithlon".
Roedd yr AC lleol, Keith Davies, a'r AS, Jonathan Edwards, wedi galw ar y prif weithredwr i gael ei wahardd yn ystod ymchwiliad yr heddlu.
Dywedodd Mr Madge: "Oherwydd cytundeb ar y cyd ni fydd y prif weithredwr Mr Mark James bellach yn ymgymryd 芒'i ddyletswyddau fel prif weithredwr o hyn nes bod ymholiadau yr heddlu ynghylch dau Adroddiad Budd Cyhoeddus Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod i ben.
"Rwy'n croesawu ymchwiliad yr heddlu fydd yn cynnig y sicrwydd y mae'r cyhoedd yn ei haeddu.
"Nid yw'r archwilydd wedi cyfeirio ei adroddiadau at yr heddlu ac nid yw'n awgrymu bod unrhyw gam troseddol wedi cymeryd lle.
"Rwy'n gobeithio y gall yr ymchwiliad ddod i ben cyn gynted 芒 phosibl er mwyn i ni fel cyngor symud ymlaen."
Dywedodd mai'r dirprwy brif weithredwr Dave Gilbert fyddai'n ymgymryd 芒'r dyletswyddau.
Mae Mr James yn gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014