大象传媒

200 mewn protest i achub Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Protest Panty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tua 200 o brotestwyr wedi cwrdd ddydd Sadwrn

Mae myfyrwyr wedi protestio y tu allan i Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth, fel rhan o ymgyrch i geisio ei chadw ar agor.

Roedd tua 200 o fyfyrwyr yn y brotest ddydd Sadwrn.

Mae'r myfyrwyr yn poeni y bydd y gymuned Gymraeg ar ei cholled, unwaith caiff neuadd newydd ei chodi.

Yn 么l Prifysgol Aberystwyth, bydd cyfleusterau newydd yn galluogi'r gymuned Gymraeg dyfu yn y dre.

Neuadd newydd

Bwriad y Brifysgol yw symud y myfyrwyr i fflatiau newydd ar Fferm Penglais, tua hanner milltir o'r neuadd, lle maen nhw'n dweud y bydd cyfleusterau gwell.

Mae ymgyrchwyr yn dadlau na fydd y neuaddau newydd, fydd wedi eu rhannu yn fflatiau, yn rhoi'r un cyfle i'r iaith Gymraeg ffynnu.

Cyfaddodd llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Mared Ifan, nad oedd Neuadd Pantycelyn yn ddigon mawr i ddal holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol, ond dywedodd ei fod yn "gadarnle i'r iaith Gymraeg".

Wrth annerch y dorf, dywedodd: "Nid ceisio ar wahanrwydd yw ein nod, ond ceisio sicrhau fod y Gymraeg yn ganolog i ddatblygiad y Brifysgol hon.

"Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid i'r neuadd barhau yn ei ffurf bresennol."

Ychwanegodd: "Pwrpas y brotest heddiw yw galw ar y Brifysgol i newid eu meddyliau ac i weld gweledigaeth yn neuadd Pantycelyn, a'i chadw hi ar agor fel llety penodedig Gymraeg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae myfywryr am weld Pantycelyn yn aros fel neuadd Gymraeg

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Brifysgol yn dweud bod angen gwella'r cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr, ac y bydd y llety newydd yn gwella'r gymuned Gymraeg

'Llety o safon uwch'

Mae'r Brifysgol wedi dweud na fydd cau Pantycelyn yn effeithio ar y gymuned Gymraeg, oherwydd y bydd eu cynllun i hyrwyddo'r Gymraeg yn mynd ymhellach na'r gofynion o fewn eu polisi iaith.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y cyfleusterau fydd ar gael yn y neuadd newydd yn rhoi profiad gwell i fyfyrwyr.

Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, Rhodri Llwyd Morgan: "Mae Pantycelyn wedi gwasanaethu myfyrwyr Aberystwyth ers 1951, ac roedd e'n adeilad addas iawn yn yr oes honno.

"Mae'r oes wedi symud yn ei blaen ac ni eisiau cynnig darpariaeth llety sydd o safon uwch ar gyfer ein myfyrwyr ni."

Ychwanegodd: "Ni'n credu bod y ddarpariaeth, o ran ansawdd, yn uwch ac yn mynd i fod yn darparu profiad gwell.

"Ond, ni wedi bod yn ymateb i'r pryderon hyn drwy gomisiynu adroddiad gan gwmni arbenigol, allanol, -arbenigwyr mewn cynllunio ieithyddol, sydd wedi dod i gasgliad na fydd y ddarpariaeth newydd yn amharu ar brofiad Cymraeg y myfyrwyr.

"Ac yn fwy na hynny, mae'n mynd i fod yn ffordd o ddenu rhagor o fyfyrwyr Cymraeg i Aberystwyth er mwyn i ni dyfu'r gymuned honno."

Bydd Mr Morgan yn cwrdd ag ymgyrchwyr i drafod yn fuan, mewn gobaith o geisio dod i gytundeb ar y mater.