Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmni Pinewood yn agor stiwdio yng Nghaerdydd
Bydd cwmni ffilmiau enwog Pinewood Studios yn agor safle newydd yng Nghymru.
Fe gyhoeddodd Carwyn Jones a'r Gweinidog Economi Edwia Hart y newyddion mewn cynhadledd yng Nghaerdydd fore Llun.
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni yw'r fenter, ac mae gobaith y bydd 2,000 o swyddi'n cael eu creu yn y pum mlynedd nesa'.
Fe fydd y stiwdio 180,000 troedfedd sgw芒r yn cael ei hadeiladu yn yr hen Ganolfan Ynni yng Ngwynll诺g.
Yn 么l y llywodraeth, dylai'r cytundeb sicrhau bod 拢90 miliwn yn cael ei wario gyda busnesau yng Nghymru.
1,500 o ffilmiau
Mae Pinewood yn enwog am fod yn gartref i fwy na 1,500 o ffilmiau, yn cynnwys cyfres James Bond a'r ffilmiau 'Carry On'.
Meddai Carwyn Jones: "Ar 么l mwynhau gwylio'r gwobrau BAFTA neithiwr, gallaf innau ddatgelu heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gipio un o wobrau mwyaf y diwydiant ffilm a theledu.
Mae'r cytundeb hwn gyda Pinewood yn bluen fawr yn het Cymru.
Dywedodd: "Mae denu brand mor eiconig 芒 Pinewood yn newyddion ardderchog i Gymru. Mae enw Pinewood yn gyfystyr 芒 chynyrchiadau Prydeinig a rhyngwladol o safon fyd-eang, gan gynnwys ffilmiau James Bond, ac mae'n gartref i rai o'r ffilmiau mwyaf llwyddiannus erioed.
"Mae'r buddsoddiad uchel ei broffil hwn o werth economaidd mawr i Gymru, a bydd y bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Pinewood yn cynnig cyfle amhrisiadwy i hyrwyddo Cymru ledled y byd fel lleoliad heb ei ail ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu.
"Dyma enghraifft wych o'r ffordd yr ydyn ni'n gweithio i ddenu busnes i Gymru. Ni gysylltodd 芒 Pinewood ar 么l clywed nad oedd digon o gapasiti stiwdio ganddynt, ac fe lwyddon ni i gipio'r cyfle i ddod 芒'r brand byd-enwog hwn i Gymru."
'Hyd at 拢30m'
Meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, oedd y gyfrifol am arwain taith fasnach i Los Angeles y llynedd i godi proffil Cymru yn Hollywood:
"Mae Pinewood yn cynrychioli'r gorau o ffilmiau Prydain. Bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi hyd at 拢30m mewn prosiectau a sefydlir gan Pinewood i gynhyrchu rhagor o ffilm a theledu yng Nghymru.
"Mae hefyd yn agor y drws i ragor o fuddsoddiadau yn y dyfodol, gan gynnig mwy o gyfle i dyfu.
"Mae'r bartneriaeth hon yn newyddion gwych ac yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu'r economi drwy gefnogi'r sectorau allweddol sydd 芒'r potensial i greu swyddi a chyfoeth."
"Dros y deuddeg mis diwethaf, mae dau gynhyrchiad teledu mawr, uchel eu proffil wedi'u ffilmio yng Nghymru - Da Vinci's Demons ac Atlantis - a bydd y bartneriaeth hon 芒 Pinewood yn si诺r o roi lle mwy amlwg eto i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol."