Llai yn ddiwaith yng Nghymru na'r DU
- Cyhoeddwyd
Mae llai o bobl yn ddi-waith yng Nghymru ac ar draws y DU yn 么l y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd ddydd Mercher.
Bellach mae diweithdra yng Nghymru ychydig yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan yn dilyn cwymp o 12,000 dros y chwarter diwethaf.
Erbyn hyn mae 2.34 miliwn o bobl yn ddiwaith, neu 7.2%, yn chwarter olaf 2013 - mae hynny 125,000 yn is na'r ffigwr blaenorol.
Roedd 27,000 yn llai yn hawlio lwfans chwilio am waith dros y mis diwethaf - y pymthegfed tro'n olynol i'r nifer ddisgyn.
Menywod
Ffigwr arall trawiadol yw bod mwy o fenywod mewn gwaith nag ar unrhyw adeg ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn 1971, a bellach mae ychydig dros 14 miliwn o fenywod yn gweithio.
Mae diweithdra tymor hir a diweithdra ymysg yr ifanc hefyd wedi disgyn, ond mae 1.4m mewn swyddi rhan amser am eu bod yn methu cael swydd lawn amser.
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2013 roedd 105,000 yn ddiwaith yng Nghymru, ac mae hynny 12,000 yn is na'r tri mis blaenorol a 22,000 yn llai na'r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.
Y canran sy'n ddiwaith yng Nghymru yw 7.1% o'i gymharu 芒 7.2% i'r DU gyfan.
'Tystiolaeth glir'
Wrth groesawu'r ffigyrau dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
"Mae diweithdra bellach yn is yng Nghymru nag yn y DU gyfan. Mae diweithdra ymysg yr ifanc hefyd yn llai na'r cyfartaledd i'r DU gyda chwymp dramatig o 22.5% yn nifer y bobl 16-17 oed sydd heb waith yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf o'i gymharu 芒 chwymp o ddim ond 1.2% yng ngweddill y DU.
"Mae'r ffigyrau yn dystiolaeth glir bod ein polis茂au yn sicrhau adferiad economaidd sy'n gyflymach a chryfach na gweddill y DU.
"Mae'r cyhoeddiad gan stiwdios Pinewood yn gynharach yn yr wythnos yn dangos bod Cymru'n cael ei gweld fel y lle delfrydol ar gyfer cynlluniau mewnfuddsoddi o safon.
"Byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant ac yn parhau i ddarparu cefnogaeth ymarferol i dyfu busnesau yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2013