拢12m arall i wasanaeth band llydan hynod o gyflym
- Cyhoeddwyd
Bydd 拢12m ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaeth band llydan hynod o gyflym ar hyd a lled Cymru.
Bydd yr arian yn helpu datblygu busnesau newydd a chreu swyddi yn ardaloedd mwyaf gwledig y wlad, yn 么l Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, Maria Miller.
Mae llywodraeth y DU wedi buddsoddi 拢57m i ddatblygu rhwydwaith band llydan hynod gyflym yn barod, gyda'r arian wedi ei ddosbarthu i Lywodraeth Cymru sydd yn rhedeg cynllun "Cyflymu Cymru" ar y cyd 芒 chwmni BT.
Y bwriad ydi darparu gwasanaeth band llydan hynod gyflym i 96% o gartrefi drwy Gymru erbyn 2016.
Mae modd i dros 100,000 o dai a busnesau gysylltu gyda band llydan hynod gyflym yn barod a'r gobaith ydi rhoi 拢12m ychwanegol i ehangu'r ddarpariaeth i ardaloedd mwyaf anghysbell y wlad.
Dywedodd Mrs Miller: ''Bydd band llydan hynod gyflym o fantais i bawb yng Nghymru, ar gyfer gwaith, gwaith cartref neu ar gyfer lawrlwytho ffilmiau neu gerddoriaeth.
"Rydym am sicrhau fod Prydain yn un o'r gwledydd gorau yn y byd ar gyfer band llydan, ac fe fydd yr arian ychwanegol yr ydym yn ei fuddsoddi yn sicrhau na fydd cymunedau'r DU yn cael eu gadael ar 么l.''
Fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones: ''Rwy'n falch fod Cymru yn derbyn 拢12m yn ychwanegol. Mae dros 100,000 o dai a busnesau drwy Gymru wedi manteisio trwy dderbyn band llydan hynod gyflym yn barod wedi buddsoddiad o 拢57m gan lywodraeth y DU ac fe fydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn golygu bod y ffigwr yma'n cynyddu'n sylweddol.''
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r ardaloedd hynny sydd ddim yn derbyn gwasanaeth band llydan hynod gyflym dan gynllun "Cyflymu Cymru" neu gan ddarparwyr preifat.
Yn 么l Llywodraeth Cymru, fe fydd yr adolygiad yn mynd i'r afael 芒 phroblemau darparu band llydan i'r ardaloedd hyn, ac fe fydd y 拢12m ychwanegol yn helpu cysylltu cartrefi a busnesau ychwanegol yn y dyfodol.
Fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: "Ein cynlluniau ar gyfer band llydan ffeibr hynod o gyflym yw'r rhai mwyaf uchelgeisiol yn y DU.
"Er hyn bydd canran fach o bobl yn methu 芒 derbyn y gwasanaeth. Bydd yr arian ychwanegol, wedi ei gyfuno 芒 chanlyniadau ein hadolygiad, yn golygu y bydd mwy o fusnesau ac unigolion yn manteisio ar fand eang hynod o gyflym.''