Elfyn Llwyd am newid cyfraith trais yn y cartref
- Cyhoeddwyd
Mae Elfyn Llwyd AS Plaid Cymru Dwyfor-Meirionnydd yn cyflwyno mesur yn Nh欧'r Cyffredin gyda'r bwriad yn y pen draw o geisio newid cyfraith trais yn y cartre'.
Ym Mawrth y llynedd fe gafodd diffiniad newydd o drais yn y cartre' ei fabwysiadu, oedd yn cynnwys trais seicolegol, corfforol, rhywiol, emosiynol ac ariannol.
Ond ar hyn o bryd dydi'r math yma o ymddygiad ddim yn drosedd.
'Ymyrryd yn gynt'
Meddai Elfyn Llwyd: "Pwrpas y newidiadau fuasai creu fframwaith a ble'n bosib ymyrryd yn gynt yn achosion trais yn y cartre'.
"Pur anaml mae un digwyddiad o drais yn y cartre' - (yr hyn sy'n digwydd yw) catalog o ddigwyddiadau dros amser ac mae'n rhaid i ni nodi'r gwahanol fathau o drais sydd yn digwydd ...
"Ar hyn o bryd dydi'r mesur ddim yn barod i droi'n ddeddf ond hwn ydi'r gwrandawiad cyntaf er mwyn dechrau'r drafodaeth a gweld beth sydd angen ei wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2013