Comisiynwyr yn anghytuno am bwerau heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae dau o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru wedi od yn dadlau am ddatganoli pwerau dros yr heddlu i lywodraeth Cymru.
Ddydd Llun, mae disgwyl i ail adroddiad Comisiwn Silk alw ar lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am yr heddlu.
Dywedodd Winston Roddick, y comisiynydd yng ngogledd Cymru, fod angen newid os nad oes yna resymau ymarferol yn mynd yn erbyn y cynllun.
Ond roedd Christopher Salmon (Dyfed-Powys) o'r farn na fyddai'n gwneud unrhywbeth i leihau'r nifer o droseddau, ac yn ychwanegu cost a rhwystrau.
Fe gafodd Comisiwn Silk ei sefydlu gan lywodraeth San Steffan.
Mae ail ran y comisiwn yn canolbwyntio ar ffiniau pwerau llywodraeth Cymru.
Fe alwodd llywodraeth Cymru am ddatganoli nifer o bwerau yn cynnwys yr heddlu, cyfiawnder ieuenctid a chydsyniad dros brosiectau ynni sylweddol.
Ond mae llywodraeth San Steffan eisoes wedi dweud nad oes achos am newidiadau "radical" i ddatganoli.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai'n anarferol i'r heddlu gael ei ddatganoli heb weddill y system gyfiawnder droseddol.
Rhoddodd y ddau gomisiynydd eu barn ar raglen Sunday Supplement ar 大象传媒 Radio Wales.
Dywedodd Mr Roddick fod Cymru "ar ei h么l hi" o'i chymharu 芒'r Alban a Gogledd Iwerddon, sydd gan eu systemau cyfiawnder eu hunain.
Byddai'r syniad sydd wedi ei argymell gan Silk, hyd yn oed yn gynyddrannol, yn datrys "anghysondeb", meddai.
Ychwanegodd: "Y cwestiwn canolog yw a fyddai datganoli cyfrifoldeb dros luoedd heddlu Cymru i'r cynulliad cenedlaethol yn gwneud i heddluoedd Cymru weithredu'n llai effeithiol ac effeithlon nag ar hyn o bryd.
"Os nad oes tystiolaeth glir mai dyma fyddai'r achos, yna does dim rheswm ymarferol na chyfansoddiadol yn erbyn y syniad."
Dywedodd Mr Salmon fod llywodraethiant heddluoedd Cymru eisoes wedi ei ddatganoli ar ffurf y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.
Meddai: "Wela'i ddim mantais o gwbl yn y syniad o hollti'r system gyfiawnder droseddol i lawr y ffin 芒 Chymru... ac ychwanegu dolen arall i'r gadwyn, gan ychwanegu Caerdydd i'r gadwyn o arian gan y Swyddfa Gartref.
"Yr unig beth wnaiff ddigwydd drwy ychwanegu Caerdydd, yw dod 芒 chost a chymhlethod i weinyddiaeth yr heddlu.
"Y peth hanfodol yn y fan hon yw nad ydy troseddwyr yn parchu'r ffiniau yma."
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, o blaid datganoli rhagor o bwerau.
Fe ddywedodd o wrth 大象传媒 Cymru ddydd Sadwrn: "Allwch chi ddim ond lleihau troseddau drwy bartneriaeth gref rhwng yr heddlu a chyrff lleol eraill, awdurdodau lleol a'r asiantaethau sydd eisoes wedi eu datganoli i lywodraeth Cymru.
"Felly mae'n gwneud synnwyr i ddod 芒'r holl dasg o wella cymdeithas a lleihau trosedd at ei gilydd - mae hynny'n golygu datganoli'r cyfrifoldeb dros yr heddlu."
Yn ei ddatganiad i Gomisiwn Silk, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Ian Johnston y dylid ystyried newid "dim ond os oes tystiolaeth y byddai'n ychwanegu gwerth i'r safle presennol."
Ychwanegodd y dylai trafodaeth o'r fath fod am yr holl system gyfiawnder droseddol, nid yr heddlu yn unig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2014