Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
123 o swyddi dur dan fygythiad yng Nghasnewydd
Gall dros 120 o swyddi gael eu colli wrth i waith dur yn ne Cymru gael ei ailstrwythuro.
Dywedodd Cogent Power, is-gwmni sy'n rhan o gr诺p Tata Steel, bod 83 o swyddi uniongyrchol a 40 o swyddi contractwyr mewn perygl yng ngwaith dur Orb Electrical yng Nghasnewydd.
Dywedodd y cwmni y byddai rhaglen o welliannau ar y safle yn canolbwyntio ar "gynnyrch o safon uwch, gwella a lliniaru prosesau cynhyrchu, a chreu gweithlu llai a mwy hyblyg".
Mae cynrychiolydd undeb wedi dweud ei bod hi'n "ddiwrnod siomedig" i weithwyr Orb.
Newidiadau 'hanfodol'
Yn 么l rheolwr gyfarwyddwr Cogent Power, Stuart Wilkie, mae'r newidiadau yn "hanfodol ar gyfer dyfodol hirdymor" y gwaith dur.
"Bydd hwn yn gyfnod anodd i bawb sy'n cael eu heffeithio ond mae'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud yn hanfodol ar gyfer dyfodol hirdymor y gwaith yn Orb.
"Rydyn ni'n dechrau proses ymgynghori drwyadl, yn cynnwys y gweithlu, eu cynrychiolwyr a'r awdurdodau priodol.
"Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gefnogi gweithwyr a, lle mae'n bosib, i sicrhau diswyddiadau gwirfoddol, gan gadw sgiliau a phrofiad hollbwysig i'r dyfodol."
Llai o alw
Dywedodd Mr Wilkie bod y cwmni yn ceisio sicrhau eu bod yn dal i fod yn gystadleuol yn y sector, wrth ddelio gyda llai o alw am ddur trydanol.
Ychwanegodd bod y galw am y cynnyrch wedi gostwng 20% o'i gymharu 芒 lefelau 2008, a bod lefelau uchel o fewnforio i Ewrop hefyd.
"Os ydyn ni am sicrhau'r traddodiad gwych o gynhyrchu dur yma yn Orb, mae angen i ni weithredu nawr i gystadlu yn y farchnad heriol a lliniaru costau uwch mewn meysydd fel egni."
Dywedodd Mark Spencer, cynrychiolydd undeb Community ac ysgrifennydd Orb Joint Works Council: "Mae hwn yn ddiwrnod siomedig i'n haelodau yn Orb sydd wedi gwneud eu gorau i weithredu'r newidiadau sylweddol y mae'r cwmni wedi ei ddioddef yn ystod yr argyfwng.
"Byddwn yn gweithio gyda'r rheolwyr i leihau effaith y lleihad ar ein haelodau."
'Newyddion siomedig'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn newyddion siomedig, yn enwedig gan fod Cogent yng Nghasnewydd wedi gwneud ymdrech sylweddol i leihau costau a chynyddu eu cyfran o'r farchnad wrth i'r diwydiant dur yn Ewrop barhau i weithredu mewn amodau anodd iawn.
"Mae gennym berthynas gref ac rydym yn cyfathrebu'n gyson gyda'r cwmni, gan ei fod yn rhan o un o'n cwmn茂au mwyaf pwysig, Tata Steel.
"Rydym mewn trafodaethau ar hyn o bryd gydag uwch-reolwyr y safle er mwyn ceisio canfod sut y gallwn ni helpu gyda buddsoddi yn y dyfodol mewn prosiectau posib allai fod o gymorth pellach o ran effeithlonrwydd ac arloesedd y safle.
"Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn siarad gydag amryw o asiantau a sefydliadau fydd yn gallu gweithio gyda gweithwyr fydd yn cael eu heffeithio er mwyn darparu cyngor ac arweiniad mewn cysylltiad 芒 chanfod swyddi eraill."