大象传媒

Treth cyngor: codi 4.2% ar gyfartaledd

  • Cyhoeddwyd
Arian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd trigolion Cymru bron i 拢42 y dlotach o fis Ebrill ymlaen

Mae pob cyngor Cymreig bellach wedi gosod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan arwain at gynnydd cenedlaethol cyfartalog o 4.2% mewn treth cyngor.

Mae hyn yn golygu y bydd bobl yn talu 拢42 y flwyddyn yn ychwanegol am wasanaethau'r cyngor o fis Ebrill ymlaen, yn 么l ffigyrau gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Dyw'r cynnydd yma ddim yn cynnwys biliau sydd ynghlwm wrth gynghorau cymunedol a heddlua.

Tri chyngor sydd wedi penderfynu ar y cynnydd mwyaf posibl mewn treth cyngor o 5% sef Abertawe, Ceredigion a Chonwy.

Yn ogystal mae cyngor Pen-y-bont wedi cymeradwyo cynnydd o 4.98%.

Mae pob cyngor wedi setlo am gynnydd o 3% neu fwy, gyda chynghorau Wrecsam a Sir y Fflint yn mynd am y cynnydd isaf.

Mae CLlLC yn dweud mai amgylchiadau "eithriadol o anodd" sydd wrth wraidd y cynnydd.

Dywedodd arweinydd CLlLC Cymru, Bob Wellington: "Mae cyfraddau treth yn gysylltiedig 芒 gallu llywodraeth leol i ddarparu gwasanaeth rheng flaen fel addysg a gwasanaeth cymdeithasol ac mae pob cyngor yng Nghymru wedi gorfod gosod cyfradd treth cyngor fydd yn ei helpu nhw i redeg gwasanaethau cyhoeddus mor effeithiol 芒 phosib.

"Dyw'r penderfyniadau yma heb fod yn hawdd.

"Ni wnaeth unrhyw arweinydd llywodraeth leol ddewis bod yn arweinydd er mwyn gwneud toriadau neu roi pwysau ariannol ar y cymunedau maen nhw eisiau eu gwasanaethu. Ond mae'r rownd yma o osod cyllidebau wedi galw am gydbwysedd rhwng arbed cymunedau ac arbed y gwasanaethau cyhoeddus mae'r cymunedau yno'n ddibynnol arnyn nhw."