大象传媒

Cyfraith Clare yn dod i rym

  • Cyhoeddwyd
Clare WoodFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd Clare Wood ddim yn gwybod bod gan ei chyn-gariad record droseddol

Mae cynllun sydd yn rhoi gwybod i bobl os yw eu cariad wedi bod yn dreisgar yn y gorffennol yn dechrau ar draws Cymru a Lloegr. Y bwriad ydy rhoi gwybodaeth i unigolion er mwyn ceisio eu diogelu rhag perthynas dreisgar gyda rhywun.

Mi all unrhyw un sydd gyda phryderon am les person fel aelod o'r teulu neu ffrindiau hefyd ofyn am y wybodaeth yma. Os oes gan y person record sydd yn dangos ei bod wedi bod yn dreisgar yn y gorffennol neu fod yr heddlu yn amau ei bod mewn perygl, maen nhw'n rhannu'r wybodaeth yma.

Cyfraith Clare ydy'r enw sydd yn gysylltiedig gyda'r cynllun ar 么l i ferch 36 oed gael ei lladd gan ei chyn cariad. Cafodd Clare Wood ei llofruddio yn ei chartref yn Salford, Manceinion yn 2009 gan George Appleton.

Doedd hi ddim yn gwybod bod ganddo fo hanes o fod yn dreisgar. Mae ei thad, Michael Brown, wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn croesawu'r cynllun gan ddweud y byddai wedi gallu efallai "achub bywyd" ei ferch.

Cafodd y cynllun ei dreialu gan heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr, gan gynnwys Gwent yng Nghymru, ers mis Medi 2012. Yn ystod y cyfnod peilot cafodd gwybodaeth ei ddatgelu 111 o weithiau gan yr heddluoedd perthnasol.

Diogelwch i ddioddefwyr

Dydd Sadwrn hefyd, mae llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi newid fydd yn golygu y gall yr heddlu a'r llysoedd ddiogelu dioddefwr ar 么l digwyddiad o drais.

Mewn achosion lle nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo'r person mi fydd hi dal yn bosib gyda'r pwerau newydd i amddiffyn y dioddefwr.

Mae'r ddau beth yn cael ei lansio ar ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

Dywedodd yr ysgrifennydd cartref, Theresa May, bod y llywodraeth yn rhoi'r adnoddau i'r heddlu a chynghorau i daclo trais yn y cartref:

"Mae dioddefwr yn cael eu hamddiffyn yn well ond yn drist iawn, mae 'na lawer gormod o achosion o hyd lle nad yw pobl fregus yn cael eu trin yn iawn.

"Dw i yn benderfynol i weld cymdeithas lle nad yw trais yn erbyn menywod a merched yn cael ei oddef, lle mae'n bosib i bobl godi eu llais a lle nad oes na unrhyw ferch na menyw yn gorfod dioddef camdriniaeth."