大象传媒

Trin canser yr ysgyfaint gyda chyffur canser y fron?

  • Cyhoeddwyd
Canser yr ysgyfaintFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Canser yr ysgyfaint yw'r ail math mwya' cyffredin yn y DU, ar 么l canser y fron

Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd yn edrych ar y posibilrwydd o drin cleifion canser yr ysgyfaint gyda chyffur canser y fron.

Bydd profion yn cael eu cynnal i weld a yw'r cyffur Olaparib yn helpu i drin y math mwya' cyffredin o ganser, sef canser lle nad yw'r celloedd yn fach (NSCLC).

Maen nhw'n gobeithio dod o hyd i 100 o gleifion ar gyfer ail ran y profion, sy'n cael eu cynnal ar y cyd gydag Uned Ymchwil Canser Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae tua 42,000 o bobl yn cael diagnosis canser yr ysgyfaint yn y DU pob blwyddyn.

Os bydd y profion yn llwyddiannus, gallai'r cyffur gael ei roi i gleifion sydd ag NSCLC ar 么l iddynt gael triniaeth cemotherapi.

Mae'n ymddangos fod tua hanner y cleifion sydd 芒'r math yma o ganser yn cael problemau wrth i'w celloedd geisio adfer eu hunain, a'r gobaith yw y gallai'r driniaeth helpu i ladd y canser cyn iddo gael cyfle i dyfu eto wedi cemotherapi.

'Effeithiol'

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan elusen Ymchwil Canser y DU, ynghyd 芒'r cwmni fferyllol AstraZenca, trwy'r Rhwydwaith Ymchwil Canser Cenedlaethol.

Dywedodd Kate Law, cyfarwyddwr ymchwil clinigol gydag Ymchwil Canser y DU: "Trwy ymchwil, rydyn ni wedi gweld y gallai'r atalydd PARP [sydd yn y cyffur Olaparib] drin canserau eraill yn effeithiol pan fo diffygion yn y broses o ailadeiladu'r celloedd.

"Rydyn ni nawr yn mynd 芒'r wybodaeth hon i'r labordy i weld sut y gallai helpu cleifion canser.

"Yn gynyddol, rydyn ni'n gweld bod cyffuriau a oedd yn arfer cael eu defnyddio ar gyfer un math o ganser yn effeithiol ar gyfer nifer o fathau eraill," ychwanegodd.

Bydd 100 o gleifion sydd ag NSCLC yn cael eu profi mewn 25 o ysbytai ar draws y DU.

Meddai'r Athro Dean Fennell, prif ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerl欧r: "Rydyn ni angen gwell triniaethau i gleifion canser yr ysgyfaint ar frys - gyda dim ond 30% ohonyn nhw'n goroesi ar 么l cael diagnosis.

"Rydyn ni'n gobeithio bydd defnyddio'r cyffur hwn, a gafodd ei ddatblygu'n wreiddiol ar gyfer canser y fron, yn arafu twf y canser, gan wella ansawdd bywyd cleifion canser yr ysgyfaint."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol