Yr Athro Graham Donaldson fydd yn adolygu addysg yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mi fydd academydd o'r Alban yn arwain adolygiad o'r system addysg yng Nghymru.
Mae Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, wedi cyhoeddi mai'r Athro Graham Donaldson, fydd yn arwain yr adolygiad fydd yn edrych ar addysg o'r cyfnod sylfaenol i gyfnod allweddol pedwar (14 i 16 oed).
Pwrpas yr adolygiad fydd cryfhau'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn ogystal 芒'r profion i weddnewid addysg.
Mae Graham Donaldson yn Athro yn Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow ac wedi gwneud adolygiad tebyg yn ddiweddar yn yr Alban.
Rhan o'r gwaith fydd paratoi'r trywydd i ddisgyblion ddilyn patrwm gwaith fydd yn arwain at gymhwyster Bagloriaeth Newydd Cymru.
Cam hanesyddol
Meddai Mr Lewis,: "Rwyf am weld cwricwlwm yn cael ei ddatblygu, cwricwlwm a fydd yn creu cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ddysgu mewn modd sy'n meithrin eu gallu i feddwl, i weithredu, i ffynnu ac i addasu.
"Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi'r cam nesaf ar ein taith tuag at Gwricwlwm Cymru - penodi'r Athro Graham Donaldson i arwain adolygiad cynhwysfawr, annibynnol, manylach o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'r trefniadau asesu yng Nghymru.
"Wrth arwain yr adolygiad hwn, bydd yn llywio rhaglen waith sydd i weddnewid addysg yng Nghymru ac yn gam hanesyddol ymlaen yn ei hanes.
"Rwyf wedi gofyn i'r Athro Donaldson amlinellu gweledigaeth glir, gydlynol ar gyfer addysg yng Nghymru, o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, gan ei chysylltu'n uniongyrchol 芒'n system gymwysterau newydd.
Profiad o'r byd addysg
Dechreuodd Yr Athro Donaldson ddysgu mewn ysgolion yng Nglasgow a Sir Dumbarton yn 1970 cyn mynd ymlaen yn 1983 i weithio fel arolygydd ysgolion.
O 2002 i 2010 roedd yn Uwch Arolygydd Ysgolion, yn Brif Weithredwr i'r Arolygaeth Addysg ac yn ymgynghorydd i Lywodraeth yr Alban ar bob agwedd o addysg heblaw am brifysgolion.
Yn ogystal, mae o wedi cynnal adolygiadau o wledydd ar gyfer y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), arwain Cynhadledd Ryngwladol Sefydlog Arolygiaethau fel Llywydd,a helpu i ddatblygu rhaglen Llywodraeth yr Alban i ddiwygio'r cwricwlwm, Curriculum for Excellence.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2013