大象传媒

Mesur i wella toiledau cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Toiledau Cyhoeddus

Gallai cynghorau yng Nghymru gael eu gorfodi i sicrhau bod yna ddigon o doiledau cyhoeddus ar gael yn eu hardaloedd, fel rhan o gynlluniau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ddydd Mercher.

Bydd cyfraith ddrafft sy'n cynnwys nifer o fesurau i geisio gwella iechyd y cyhoedd yn gosod dyletswydd ar gynghorau i asesu, ac adolygu'n gyson, y galw lleol am doiledau cyhoeddus.

Byddai'r ddyletswydd yn berthnasol i holl gyfleusterau awdurdodau lleol gan gynnwys adeiladau cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau chwaraeon.

Os yw'r gyfraith yn cael ei chymeradwyo, credir mai dyma fyddai'r ddyletswydd gyntaf o'i fath i gael ei gyflwyno o fewn y DU.

Mae elusennau wedi dadlau ers tro bod toriadau i ddarpariaeth toiledau cyhoeddus wedi cael effaith fawr ar bobl h欧n, a phobl anabl yn enwedig, ac y gall pobl o'r herwydd fod ag ofn gadael eu tai.

Ym mis Mawrth 2012, dywedodd fod "yr achos iechyd cyhoeddus dros well darpariaeth o doiledau cyhoeddus yn gryf".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Toiledau Cyhoeddus Maenclochog

Clywodd yr ACau dystiolaeth fod pobl yn teimlo ei bod hi'n "anodd dod o hyd i doiledau cyhoeddus neu nad oeddent ar agor pan oedd eu hangen, ac nad oedd y cyfleusterau'n bodloni'u hanghenion ac nad oeddent yn l芒n nac yn ddiogel".

Mae ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru:

"Rydyn ni'n credu y gallai hyn wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl - mae'n un o'r materion sy'n cael ei godi amlaf gydag ACau a gweinidogion."

Mae Comisiynydd Pobl H欧n Cymru, Sarah Rochira wedi croesawu'r argymhellion, gan ddweud bod pobl ar draws Cymru wedi rhannu gyda hi "eu pryderon y gallen nhw, heb fynediad i doiledau cyhoeddus, fod yn gaeth i'w cartrefi, gan golli eu hannibyniaeth, a'u cysylltiadau gyda'u cymunedau, rhywbeth a fyddai'n cael effaith sylweddol ar eu hiechyd".

"Mae diffyg toiledau cyhoeddus yn cael effaith ar iechyd corfforol pobl h欧n, gan gynyddu'r risg o glefyd y galon a stroc, ond hefyd eu hiechyd meddyliol, gyda chysylltiad clir rhwng ynysu cymdeithasol ac iselder."