'Diffyg hybu' band eang cyflym iawn
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Ofcom yng Nghymru yn dweud bod diffyg hybu'n golygu nad yw menter band eang cyflym iawn yn cyrraedd ei lawn botensial.
Yn 么l John Davies, sydd hefyd yn gyn bennaeth ar BT yng Nghymru, dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud digon i ddwyn persw芒d ar bobl i gymryd rhan yn y fenter 拢400 miliwn.
Mae'r prosiect - sy'n cael ei alw yn Cyflymu Cymru - wedi derbyn cryn dipyn o arian cyhoeddus, mae BT er enghraifft wedi derbyn cymorthdaliadau i osod ceblau ffibr optig mewn ardaloedd gwledig.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y niferoedd sydd wedi ymuno 芒 chynllun Cyflymu Cymru yn unol 芒'u disgwyliadau.
'Angen mwy o ymdrech'
Dywedodd Mr Davies wrth y 大象传媒 ei fod yn cytuno gydag amcanion y cynllun a'r ffordd mae'n cael ei weithredu.
Ond ychwanegodd: "Y pryder yw os yw'n cael ei rolio mas ac mae 拢50 i 拢60 miliwn yn cael ei wario ar yr ochr gyflenwi, mae'r cwestiwn yn codi - a ydym ni'n cael digon yn ymuno ac a oes digon yn cael ei wneud i gynyddu'r galw?
"Un o'r pryderon sydd gan y pwyllgor yw nad yw'r niferoedd ymuno yn un o gryfderau Cymru ac felly mae angen gwario mwy o ymdrech ar ysgogi galw."
Mae 拢300,000 wedi ei wario ar farchnata hyd yma, a hyd yn hyn 19% o bobl mewn ardaloedd sydd 芒 band-eang cyflym iawn sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
'Mwyaf uchelgeisiol'
Y gobaith yw y bydd 96% o lefydd yng Nghymru 芒'r gallu i ddefnyddio'r cysylltiad o fewn dwy flynedd - mae'r llywodraeth yn dweud fod sawl budd i'w cael ohono.
Mae'r rhain yn cynnwys manteision i fusnesau o ran cyflymu trafodion yn ogystal 芒 galluogi unigolion i weithio, ymchwilio a gwneud defnydd hamdden o'r we mewn modd mwy hwylus.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, yn ddiweddar: "Mae ein cynlluniau ar gyfer ffibr cyflym y rhai mwyaf uchelgeisiol yn y DU, gan ddarparu band eang cyflymach i fwy o safleoedd yn gynt.
"Ym mis Ionawr, cyhoeddais fod 100,000 o safleoedd wedi'u cysylltu eisoes, ac erbyn i'r prosiect ddod i ben yn 2016, bydd gan 96% o Gymru fynediad i fand eang ffibr cyflym o ganlyniad i gyflwyno yn fasnachol a Cyflymu Cymru.
"Bydd hynny yn golygu y bydd Cymru ar y blaen, nid yn unig i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond hefyd yr UDA a Siapan."
'Camau cynnar'
Mae'r llywodraeth wedi dweud nad ydynt yn poeni gormod ynghylch y nifer cymharol isel sydd wedi cymryd mantais o'r fenter hyn yn hyn gan eu bod "yng nghamau cynnar y rhaglen a'r gweithredu marchnata".
Ychwanegodd llefarydd ar eu rhan: "Mae'r ffigyrau presennol o ran faint sy'n defnyddio'r gwasanaeth ... o gwmpas 19%.
"Dyna lle'r oedden ni'n disgwyl i bethau fod erbyn y cynfod yma.
"Mae marchnata'n cael ei ganolbwyntio ar yr ardaloedd sy'n gallu derbyn y ffibr optig ac wrth i'r ardal ehangu ac wrth i'r neges yngl欧n 芒 budd band-eang cyflym iawn ehangu, bydd y ffigyrau yn cynyddu..."
Mae gwybodaeth yngl欧n 芒'r llefydd sy'n gallu derbyn y gwasanaeth i'w gael ar wefan .
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2013