Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canser yr ysgyfaint yw'r mwyaf cyffredin yng Nghymru
Mae canser yr ysgyfaint yn lladd mwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw fath arall o ganser, gyda 1,900 o bobl yn marw o'r cyflwr yn 2012, yn 么l ffigyrau newydd.
Mae'r afiechyd yn gyfrifol am dros un o bob pum marwolaeth sydd yn gysylltiedig 芒 chanser, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ac mae cyfraddau goresgyn afiechydon sydd yn gysylltiedig 芒 chanser yn parhau'n isel o gymharu 芒 gweddill Ewrop.
Er bod cyfraddau goresgyn canser yn gwella'n gyffredinol, mae'r siawns fod unigolyn yn goresgyn yn 卯s mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae'r ffigyrau newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod achosion o ganser yr ysgyfaint wedi cynyddu traean ymysg merched dros y 10 mlynedd diwethaf.
Yn draddodiadol roedd yr afiechyd yn cael ei ystyried fel un oedd yn effeithio dynion yn fwy na merched.
Am y tro cyntaf, canser y coluddyn yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru.
Mae'r ffigyrau'n dangos fod cynydd wedi bod yn nifer yr achosion o ganser, gyda 18,000 yn derbyn diagnosis yn 2012 - ac roedd dau o bob tri o'r rhain dros 65 oed.
Dywedodd Dr Dyfed Wyn Huws o Iechyd Cyhoeddus Cymru; ''Mae'r canser yr ydym yn ei weld...yn awgrymu fod yfed alcohol yn rhesymol neu'n ormodol, dim digon o ymarfer corff, gordewdra, a bwyta'n wael heb ddigon o ffrwythau a llysiau trwy gydol ein hoes, i gyd yn cyfrannu at y lefelau yng Nghymru.''
Ysmygu
Dywedodd mai ysmygu oedd y risg uchaf o bell ffordd o ddatblygu canser yr ysgyfaint, ond fod llygredd yn yr aer hefyd yn chwarae rhan.
Fe ychwanegodd Dr Huws: ''Mae cyfyngu ar werthu a hysbysebu, yngh欧d 芒 chynnydd mewn trethi, i gyd yn effeithiol wrth ostwng y defnydd o alcohol ag ysmygu, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
''Mae isafswm prisiau alcohol a phecynnau sigarets plaen hefyd yn helpu.''
Dywedodd Llywodraeth San Steffan ei fod yn datblygu cynlluniau i wahardd brandio ar becynnau sigarets.
Elusen
Dywedodd elusen Macmillan ei fod yn pryderu nad oedd gwelliant wedi bod yng nghanran y nifer o bobl oedd yn marw o achos canser yr ysgyfaint o gymharu 芒 niferoedd y ffigyrau oedd wedi eu cyhoeddi yn y gorffennol.
''Roedd astudiaeth gynharach yn dangos fod Cymru yn y 28ain safle allan o 29 ymysg gwledydd Ewrop o ran y gallu i oroesi canser yr ysgyfaint am bum mlynedd, sydd yn dangos fod gan Gymru gryn ffordd i fynd i gyrraedd y nod o fod y gorau yn Ewrop fel sydd yn cael ei ddisgrifio yng nghynllun canser y llywodraeth,'' meddai Susan Morris, rheolwr cyffredinol yr elusen yng Nghymru.
Dywedodd yr adroddiad fod poblogaeth sydd yn heneiddio, yngh欧d ac anghydraddoldeb cymdeithasol a thlodi, i gyd yn cynyddu afiechyd a marwolaeth o achos canser yng Nghymru.