Cyfle i weld tr锚n stem Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae tr锚n stem, sydd yr olaf o'i fath i gael ei adeiladu yng Nghymru sy'n dal yn bodoli, bellach mewn arddangosfa yn Sir G芒r.
Cafodd y Taff Rhif 28 ei adeiladu n么l yn 1897 ar safle West Yard Works yng Nghaerdydd er mwyn cludo teithwyr rhwng y cymoedd a dociau'r brifddinas.
Yn 1926 cafodd ei dynnu o'r gwaith ond yn ddiweddarach cafodd ei ddefnyddio gan y fyddin a'r Bwrdd glo Cenedlaethol, cyn iddo ddod yn rhan o'r Casgliad Cenedlaethol yn 1960.
Mae bellach wedi cael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol gan weithwyr yn Rheilffordd Stem Llangollen, lle mae'r gweithdy locomotif mwyaf o'i fath yng Nghymru.
Ddydd Gwener fe deithiodd y tr锚n o Langollen i Gaerdydd, cyn gwneud ei ffordd i Reilffordd Gwili, ger Bronwydd, lle bydd i'w weld tan fis Hydref.
Yno bydd yn cael ei gysylltu 芒'r unig gerbyd rheilffordd lled safonol Cymreig sy'n dal yn bodoli, gan greu'r unig dr锚n stem Victorianaidd o Gymru yn y byd.
Dywedodd James Buckley o'r Gwili Vintage Carriage Group (GVCG): "Mae tri budd mawr i'r prosiect yma sef ein bod ni gam yn nes at greu tr锚n wedi ei wneud yn gyfan gwbl o stoc Gymreig, bod prentisiaid yn Rheilffordd Llangollen wedi cael profiad gwerthfawr yn ailosod y Rhif 28; a bod y locomotif ar gael i'r cyhoedd ei weld am y tro cyntaf ers 20 mlynedd."
Cafodd y gwaith o adfer y tr锚n ei drefnu gan GVCG, yr Amgueddfa Dr锚n Genedlaethol yng Nghaer Efrog a Rheilffordd Stem Llangollen.