Cyngerdd i ddathlu pen-blwydd Bryn Terfel yn 50
- Cyhoeddwyd
Bydd Bryn Terfel yn nodi ei ben-blwydd yn 50 mlwydd oed gyda chyngerdd arbennig yn y Royal Albert Hall yn Llundain.
Fel rhan o'r gyngerdd bydd rhai o hoff ganeuon y canwr, gan gynnwys cerddoriaeth gan Mozart a chaneuon o sioeau gerdd enwog yn cael eu perfformio.
Bydd y perfformiad ar 20 Hydref 2015 yn digwydd 30 mlynedd wedi i'r bas-bariton ganu yn y Royal Albert Hall am y tro cyntaf.
Dywedodd Bryn Terfel: "Rwyf wrth fy modd fy mod yn dathlu fy mhen-blwydd yn 50 yn y Royal Albert Hall, lleoliad sydd yn dod ag atgofion cyfoethog i mi.
"Bydd y cyngerdd arbennig yma yn ddathliad o fy hoff gerddoriaeth, o Mozart i Sondheim, o Wagner i Rodgers a Hammerstein - a gan gynnwys, dwi'n gobeithio, ambell i beth annisgwyl."
Daeth Bryn Terfel yn adnabyddus yn gyntaf am ei bortreadau o Figaro, gan Mozart a Falstaff, gan Verdi. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn enwog am ei berfformiadau o rolau Wagner, gan gynnwys Wotan, Hans Sachs a Der Fliegende Hollander.
Albert Hall: canu yno sawl gwaith
Mae ei recordiau wedi ennill dau wobr Grammy a phedwar wobr Brit Clasurol, ac mae hefyd ymhlith y rhai sydd wedi derbyn Medal y Frenhines am Gerddoriaeth.
Mae wedi perfformio yn y Royal Albert Hall 33 waith. Roedd ei berfformiad cyntaf yno ar 2 Mawrth 1985 pan ymddangosodd fel rhan o 诺yl Dydd G诺yl Dewi.
Mae hefyd wedi ymddangos mewn 12 o gyngherddau Proms y 大象传媒 ac wedi cynnal dau gyngerdd ei hyn yno yn 2003 a 2005.
Eleni bydd Bryn Terfel yn un o'r perfformwyr fydd yn rhan o 诺yl Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.
Bydd yn chwarae'r brif ran mewn cynhyrchiad arbennig o'r ddrama Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013