Canser y croen wedi cynyddu bedair gwaith ers y 70au
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl 芒 chanser y croen, yn 么l ffigyrau newydd gan Ymchwil Canser y DU.
Dros y 40 mlynedd ddiwethaf, mae cyfradd y bobl yng Nghymru sydd wedi canfod bod y math mwyaf difrifol o ganser y croen arnyn nhw wedi cynyddu bedair gwaith.
Melanoma ffyrnig yw'r pumed canser mwyaf cyffredin yng Nghymru ac mae oddeutu 120 o bobl yn marw o'r clefyd bob blwyddyn.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod oddeutu 18 ym mhob 100,000 o bobl yn darganfod bod ganddyn nhw felanoma bob blwyddyn. Yn y 70au, roedd y ffigwr yn 4 ym mhob 100,000.
Mae'r gyfradd yn golygu bod tua 730 o bobl yng Nghymru yn datblygu canser y croen difrifol bob blwyddyn.
Mae'n newid sylweddol ers canol y 70au pan roedd oddeutu 90 o bobl yn cael eu diagnosio bob blwyddyn .
Mae'r cynnydd wedi dod yn sgil pobl yn mynd ar fwy o wyliau tramor o'r 1960au hwyr ymlaen, poblogrwydd cael lliw haul ar y croen, a'r cynnydd yn y defnydd o welyau haul.
Mae'r dulliau o ganfod melanoma hefyd wedi gwella ac wedi cyfrannu o bosib at y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu diagnosio.
Dywedodd Alison Birkett o Ymchwil Canser Cymru: "Rydym yn gwybod mai effaith gormod o belydrau UF o'r haul neu o wely haul sy'n achosi canser y croen. Mae hyn yn golygu, mewn nifer o achosion, y gellir osgoi'r clefyd, felly mae'n hanfodol bod pobl yn dilyn arferion da yn yr haul, prun ai adre neu dramor."
"Un o'r ffyrdd gorau i bobl leihau'r risg o gael melanoma ffyrnig yw drwy osgoi cael eich llosgi gan yr haul. Rydym yn gwybod mai'r rhai sy'n wynebu'r risg mwyaf yw'r bobl hynny gyda chroen golau, llawer o frychni, a hanes o losgi yn yr haul neu hanes o'r clefyd yn y teulu."
"Yn anffodus, mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu diagnosio gyda melanoma ffyrnig bob blwyddyn. Ond y newyddion da ydi bod y nifer sy'n goroesi yn uwch nag i unrhyw ganser arall. Mae mwy na 8 ym mhob 10 o bobl yn goroesi'r clefyd erbyn hyn."
Mae'r canlyniadau yn cael eu rhyddhau wrth i Ymchwil Canser a chwmni Nivea lansio ymgyrch i annog pobl i fod yn saff yn yr haul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd2 Mai 2012