大象传媒

'Yn y gwaed'

  • Cyhoeddwyd
ymarferion Dyma Fi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd y sioe'n cael ei pherfformio yn Theatr Harlech yn ystod wythnos 'Steddfod yr Urdd

Pe byddai rhywun yn s么n am Gwmni Theatr Maldwyn, mae'n debyg na fyddai enw Derec Williams ymhell o'r sgwrs.

Eleni, plant Derec - Meilir, Branwen ac Osian - sy'n gyfrifol am ysgrifennu, cyfansoddi a chyfarwyddo sioe ieuenctid 'Dyma Fi' yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Meirionnydd.

Mae'r tri eisoes yn adnabyddus: Meilir yn actor ymddangosodd yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Deffro'r Gwanwyn ac yng nghyfres Zanzibar ar S4C, Branwen yn aelod o Gowbois Rhos Botwnnog a Siddi, ac Osian yn aelod o nifer o fandiau yn cynnwys Candelas, Jessop a'r Sgweiri a Siddi.

Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda Meilir, i holi sut brofiad oedd gweithio gyda'i frawd a'i chwaer a sut oedd yr ymarferion yn mynd.

Sut ddaeth y cyfle i ysgrifennu a chynhyrchu'r sioe?

Fe gawsom ni gynnig gan yr Urdd i ysgrifennu'r sioe bron i flwyddyn yn 么l bellach.

Fe fuom ni'n pendroni'n hir ddylen ni ymgymryd 芒 thasg mor fawr, ond wedi pwyso a mesur a chan gofio'r siom sydd wedi bod mewn rhai Eisteddfodau oherwydd diffyg dram芒u cerdd gwreiddiol i bobl ifanc, 'naetho ni benderfynu bwrw 'mlaen 'efo'r dasg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gweithio gyda'i frawd a'i chwaer yn gallu bod yn heriol, meddai Meilir (canol)

Sut aethoch chi ati i ysgrifennu'r sioe?

Roedde' ni eisiau ysgrifennu sioe gerdd y gallai'r bobl ifanc a fyddai yn ei pherfformio a'i gwylio hi uniaethu 'efo hi.

Yn fwy na hynny, roedden ni eisiau sioe gerdd wedi'i hysgrifennu o safbwynt pobl ifanc.

Bu llawer o drafod ar ddechrau'r prosiect am gynnwys a neges y sioe, cyn penderfynu ar yr union stori.

Felly fe es i ati i ddechrau drafftio'r sgript fis Mai'r llynedd, gan drafod efo Branwen pa ddarnau o'r stori oedd yn cynnig eu hunain i g芒n. 'Da ni wedi dewis ysgol uwchradd ddychmygol ym Meirionnydd fel lleoliad i'r sioe.

Sut oedd hi i gydweithio fel aelodau o'r un teulu?

Roedd 'na sawl mantais gweithio 'efo brawd a chwaer, megis byw o dan yr un to 芒'r ddau arall, felly roedd digon o gyfle i drafod syniadau.

Ond roedd ambell i sialens hefyd - yn wahanol i weithio gyda rhywun dieithr, mae trafod syniadau efo'ch tylwyth yn golygu fod sawl barn yn cael ei fynegi heb flewyn ar dafod, a fyddai weithiau'n cleisio'r ego a thro arall yn achosi i ambell ddrws gael ei slamio!

Mi fyswn i'n herio unrhyw un i weithio efo'i frawd neu chwaer heb strancio unwaith.

Sut aethoch ati i gyfansoddi'r caneuon?

Yn gyntaf, roedd rhaid penderfynu beth oedd arddull cerddorol y sioe. Roedde' ni'n gyt没n y dylen ni geisio gwyro oddi wrth y genre drama gerdd draddodiadol, ac yn hytrach, anelu am sain fwy roc a phop.

Dyma pryd ddechreuodd Osian gyfrannu at y broses o gyfansoddi a threfnu'r gerddoriaeth. Roedd ei brofiad o gyfansoddi ar gyfer Candelas yn fantais fawr i ni yn yr achos yma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgol uwchradd ddychmygol ym Meirionnydd yw lleoliad y sioe

Pwy yw cast y sioe?

Mae 35 disgybl o chwe ysgol uwchradd a choleg chweched dosbarth Meirionnydd yn rhan o'r cast.

Fe gychwynnon ni ymarfer 'n么l ym mis Hydref, er mwyn lleihau'r pwysau gwaith arnyn nhw gan eu bod nhw'n sefyll arholiadau yn y gwanwyn.

'Da ni i gyd yn gweithio trwy'n gilydd yn yr ymarferion, ond fi sydd wedi cyfarwyddo'r actio a'r symud gan fwyaf, ac Osian a Branwen yng ngofal yr ochr gerddorol.

'Da ni hefyd wedi cydweithio gyda Colin Diamond ar rai o'r symudiadau ac wedi cael cymorth Gwennan Mair Jones, myfyrwraig drama gymunedol yng ngholeg perfformio LIPA, yn yr ymarferion.

Mae'r criw wedi bod yn ffyddlon iawn ac wedi gweithio'n galed bob penwythnos i lwyfannu'r sioe, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddiwrnod mawr y perfformiad cyntaf.

Mae 'Dyma Fi' yn cael ei pherfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni yn Theatr Harlech, ar 24, 26 a 28 Mai.