大象传媒

Arolwg diwedd oes yn 'annigonol'

  • Cyhoeddwyd
Gofal diwedd oes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Farwnes Ilora Finlay wedi amddiffyn y system bresennol gan ddweud ei bod yn darparu data pwysig

Mae angen i gleifion sy'n marw a'u teuluoedd i leisio'u barn am safon y gofal y maen nhw'n ei dderbyn, yn 么l elusen flaenllaw.

Fe ddywed Gofal Canser Marie Curie bod y system bresennol o fesur a chofnodi profiadau diwedd oes yng Nghymru yn rhy gyfyng.

Mewn adroddiad mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg llawnach o deuluoedd er mwyn casglu mwy o wybodaeth am sut y gellir gwella'r gofal sydd ar gael.

Dadl yr elusen yw y byddai hynny'n cynnig gwybodaeth werthfawr i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydliadau eraill am sut i flaenoriaethu adnoddau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried yr adroddiad yn ofalus.

Data pwysig

Yn y cyfamser mae un o feddygon lliniarol mwyaf blaenllaw'r wlad wedi amddiffyn y system bresennol gan ddweud ei bod yn darparu data "cyfoethog a phwysig".

Mae'r Farwnes Ilora Finlay o Landaf hefyd yn dweud ei bod "wedi ei syfrdanu" gan rai o'r dadleuon yn yr adroddiad.

Ar hyn o bryd mae gan gleifion sy'n derbyn gofal lliniarol (gofal diwedd oes) neu eu teuluoedd gyfle i leisio'u barn am eu gofal mewn arolwg.

Ond mae Gofal Canser Marie Curie yn dadlau bod angen llawer mwy, gan ddweud bod yr arolwg presennol :-

  • Ddim yn cynrychioli pob person sy'n marw, dim ond y rhai sy'n derbyn gofal lliniarol arbenigol, er enghraifft mewn hosbis neu gartref gofal;

  • Ddim yn cynnwys gwybodaeth bwysig am gefndir y claf, megis ethnigrwydd, oed, rhyw na'r diagnosis a gafon nhw;

  • Yn gyfyng o ran cynnwys - er enghraifft nid yw'n gofyn am farn y claf neu'r teulu am effeithiolrwydd meddyginiaeth i atal poen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddywed Owain Taylor-Shaw bod angen mwy o wybodaeth yn yr arolwg

'Angen ehangu'

Dywedodd Owain Taylor-Shaw o'r elusen:

"Mae angen gwybod am y gofal mae pobl yn ei gael ar ddiwedd eu bywyd, nid yn unig er mwyn tawelwch meddwl ond efallai hefyd bod angen herio pobl a sefydliadau i wneud yn si诺r fod cymorth ar gael.

"Mae'r arolwg sydd ar gael ar y foment yn gwneud gwaith da, ond mae angen ei ehangu. Mae angen gwybod am deimladau pobl ar ddiwedd eu hoes - sut fath o barch ac urddas a gafon nhw gan y cymorth y gwnaethon nhw'i dderbyn.

"Dim ond pobl sy'n derbyn gofal lliniarol sydd yn yr arolwg ond mae llai na 50% o bobl 芒 chanser yn derbyn gofal lliniarol a llai na 5% o bobl 芒 chlefydau eraill diwedd oes.

"Gyda'r wybodaeth ychwanegol fe allwn ni helpu i sicrhau bod yr arian sy'n cael ei wario ar ofal yn cael ei dargedu ac yn mynd ymhellach."

'Eisoes ar waith'

Ond mae'r Farwnes Ilora Finlay - sy'n arbenigwr mewn gofal diwedd oes - yn gwrthod rhai o'r honiadau bod yr arolwg yn rhy gyfyng, gan ddweud:

"Mae'r cwestiynau yn amhendant yn fwriadol... nid rhyw fath o weithredu ticio bocsys yw e.

"Rydym wedi derbyn miloedd o'r arolygon sy'n llawn data cyfoethog a phwysig, a'r hyn sy'n glir yw mai'r hyn sy'n bwysig i bobl yw agwedd a chael eu gweld fel person."

Mae'r Farwnes Finlay hefyd yn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar feddyginiaeth diwedd oes, ac mae'n mynnu bod yr arolwg eisoes yn cael ei ehangu, gan ychwanegu:

"Rydym y tu hwnt i ystyried y peth - mae pethau eisoes ar waith. Rydym wedi addasu'r arolwg yng ngoleuni ein profiadau ac wedi addasu'r wefan i gynnwys gwasanaethau ar draws Cymru.

"Y bwriad nawr yw dechrau cynllun peilot mewn tri ysbyty cyffredinol."

'Llais y claf'

Yn 2013 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer Gofal Diwedd Oes gyda'r nod o wella gofal lliniarol ar draws Cymru.

O ganlyniad mae cyfrifoldeb bellach ar bob bwrdd iechyd i greu cynlluniau unigol i wella gwasanaethau.

Ond mae elusen Marie Curie'n awgrymu bod rhai o'r byrddau iechyd yn cael trafferth cynllunio o flaen llaw oherwydd prinder data o safon uchel gan gleifion a'u teuluoedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried yr adroddiad yn ofalus, ac ychwanegodd llefarydd:

"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd llais y claf wrth wella gwasanaethau, yn enwedig ar ddiwedd oes pan mae deall anghenion yr unigolyn yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol.

"Fel mae'r adroddiad yn dweud, mae ein cynllun Gofal Diwedd Oes yn pwysleisio r么l bwysig barn y claf a'r teulu wrth wella gwasanaethau, ac fe fyddwn yn ystyried yn ofalus argymhellion yr adroddiad yma."

Ym mis Mai fe fydd Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen newydd fydd yn annog pobl i fod yn fwy agored am farwolaeth a thrafod eu dymuniadau ar ddiwedd eu hoes.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol