大象传媒

Blwyddyn o Lwyddiant a Difrod i Lwybr Arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llwybr Arfordir Cymru

Dwy flynedd union ers agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru, mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn arwain taith gerdded ger traethau Bro Morgannwg i ddathlu.

Erbyn hyn mae'r llwybr 870 milltir yn cael ei hystyried fel un o brif atyniadau'r wlad.

Yn 么l y llywodraeth mae'r llwybr yn gyfrifol am ddenu 2.8 miliwn o ymwelwyr, ac mae hynny yn werth 拢32 miliwn i'r economi.

Dywedodd y Gweinidog John Griffiths:

"Mae datblygu Llwybr Arfordir Cymru eisoes yn hwb i'r economi leol ar hyd ein harfordir, ac mae'n denu miloedd o ymwelwyr i Gymru. Bydd y gwaith o gynnal a gwella'r llwybr yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a'r manteision economaidd yn y dyfodol."

Erydiad Mawr

Yn ystod y misoedd diwethaf mae'r pwyslais ar gynnal y llwybr wedi dwysau.

Roedd stormydd y gaeaf yn gyfrifol am ddifrodi'r llwybr mewn 70 lleoliad, gan greu costau ychwanegol o 拢340,000.

Cafodd rhai mannau eu heffeithio yn ddifrifol gan erydiad, a bu'n rhaid cau ac ailgyfeirio'r llwybr mewn sawl ardal.

I Gyfoeth Naturiol Cymru, sydd yn gyfrifol am reolaeth y llwybr, mae cadw'r arfordir mewn cyflwr da i gerddwyr yn flaenoriaeth uchel.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Erydiad Abererch, Gwynedd

Yn 么l Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Yn y ddwy flynedd ers ei agor ym Mai 2012, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru, a dal dychymyg y genedl.

"Mae cyfleoedd hamddena rhagorol ar hyd y llwybr, sydd ar gael i bobl leol a'r ymwelwyr sy'n dod i chwilota, gan arddangos amrywiaeth y dirwedd a'r cynefinoedd ar hyd ein glannau."