大象传媒

Disgwyl i'r llywodraeth gyhoeddi targedau canser newydd

  • Cyhoeddwyd
NHS staffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i'r targedau canser newydd fod yn rhai dadleuol

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ffyrdd newydd o fesur gofal cleifion canser yng Nghymru.

Peilot fydd hwn ac mae'r cynllun yn cael ei gyhoeddi yn sgil pryderon nad ydy'r targedau iechyd presennol yn adlewyrchu profiadau na chanlyniadau cleifion mewn ffordd berthnasol.

Y llynedd mi gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ei fod yn bwriadu adolygu nifer o dargedau iechyd ar draws y gwasanaeth iechyd.

Ei ddadl oedd bod rhai targedau, fel y rhai sy'n dweud y dylai ambiwlans ymateb i alwadau brys o fewn wyth munud ac y dylai bobl dderbyn triniaeth mewn unedau brys o fewn pedair awr, yn anghyflawn.

Er bod targedau fel hyn yn rhoi syniad o ba mor gyflym mae claf yn cael triniaeth, dydyn nhw ddim yn adlewyrchu'n llawn ansawdd y gofal meddai'r gweinidog.

Angen un targed

Ar hyn o bryd mae 'na ddwy ffon fesur yn cael ei ddefnyddio wrth ystyried targedau canser.

Os yw claf yn cael ei gyfeirio i'r ysbyty gan feddyg sy'n amau ei fod ag achos brys o ganser, yna fe ddylai triniaeth ddechrau o fewn chwe deg dau ddiwrnod mewn 95% o achosion.

Mae'r ail darged yn ymwneud 芒 chleifion sydd ddim wedi cael eu hystyried yn achosion canser brys ond sydd wedyn wedi darganfod a chael diagnosis o'r afiechyd.

Yn yr achos hwnnw fe ddylai 98% ohonynt ddechrau triniaeth o fewn 31 diwrnod. Mae hwn yn darged sydd wedi cael ei gyrraedd - 98.2% oedd y ffigwr ar gyfer mis Chwefror 2014.

Ond mae rhai yn dadlau y dylai amseroedd aros ar gyfer pob claf canser, waeth sut mae'r clefyd yn dod i'r amlwg, gael eu mesur gyda'r un ffon.

Y ddadl yw y byddai hynny yn fodd o wella'r ddarpariaeth i bob claf ac nid yn canolbwyntio ar yr achosion sy'n dod yn agos at fethu'r naill darged neu'r llall.

Mae rhai hefyd yn beirniadu'r targedau presennol am nad ydyn nhw yn ystyried faint o gleifion sy'n goroesi ar 么l triniaeth.

Ond bydd unrhyw ymgais i newid y targedau yn si诺r o gorddi'r dyfroedd.

Mae'r gwrthbleidiau eisoes wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu 芒 chyrraedd y nod gan eu bod yn ystyried diwygio'r targedau presennol.

Ddim tu 么l i'r gweddill

Er enghraifft ym mis Mawrth pan gafodd targedau newydd ambiwlans eu cyhoeddi mi gyhoeddwyd ffigyrau eraill yr un diwrnod. Rhain oedd y ffigyrau ymateb i alwadau gan y gwasanaeth ambiwlans ac mi oedden nhw wedi gwaethygu. Mae Lloegr a'r Alban wedi bod yn gwneud yn well gyda'r targed yma.

Mi ddangosodd adroddiad Nuffield fis diwethaf bod amseroedd aros llawdriniaethau pen-glin, clun a'r galon yng Nghymru wedi gwaethygu yn sylweddol ers 2009 o'i gymharu gyda Lloegr a'r Alban.

Penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri n么l ar gyllideb y GIG yn y blynyddoedd diwethaf oedd efallai ar fai yn 么l yr adroddiad. Ond roedd y ddogfen hefyd yn nodi bod yna welliant wedi bod mewn meysydd eraill ac nad oedd yna unrhyw dystiolaeth bod Cymru "ar ei h么l hi" o'i gymharu gyda gweddill Prydain.

Mae perfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi bod yn bwnc llosg diweddar yn San Steffan.

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi awgrymu fod y ffaith nad yw targedau canser Cymru wedi eu cyrraedd ers blynyddoedd yn adlewyrchu anrhefn a methiannau'r Blaid Lafur.

Er hynny mae'r ystadegau canser swyddogol yn awgrymu bod y gwasanaeth iechyd Cymreig wedi trin mwy o gleifion o fewn 31 a 62 diwrnod na'r NHS yn Lloegr, yn ystod tri mis olaf y llynedd.