大象传媒

Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Llyfr y Flwyddyn 2014Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2014.

Fe gafodd dros 50 o lyfrau Cymraeg cymwys eu cyflwyno i'r beirniaid am eleni sef yr awdur Gareth Miles, y bardd Eurig Salisbury a'r blogiwr ac awdur Lowri Cooke.

Fe gafodd naw llyfr eu dewis ar gyfer y rhestr fer mewn tri chategori. Bydd enillydd bob categori yn derbyn 拢2,000, gyda 拢6,000 yn ychwanegol i'r prif enillydd yn Gymraeg a Saesneg.

Dyma'r cyfrolau Cymraeg :-

Rhestr Fer Barddoniaeth :-

  • Rhwng y Llinellau - Christine James (Cyhoeddiadau Barddas);

  • Trwy Ddyddiau Gwydr - Sian Northey (Gwasg Carreg Gwalch);

  • L么n Fain - Dafydd John Pritchard (Cyhoeddiadau Barddas).

Rhestr Fer Ffuglen :-

  • Dewis - Ioan Kidd (Gwasg Gomer);

  • Paris - Wiliam Owen Roberts (Cyhoeddiadau Barddas);

  • Eneidiau - Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch).

Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol :-

  • Bob: Cofiant R.Williams Parry 1884-1956 - Alan Llwyd (Gwasg Gomer);

  • Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985 - Derec Llwyd Morgan (Gwasg Gomer);

  • Ffarwel i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T.H.Parry Williams - Angharad Price (Gwasg Gomer).

'Adlewyrchu safon'

Dywedodd Lowri Cooke: "Bu'n flwyddyn o brofiadau llawn pleser a phoen, wrth gyrraedd y rhestr ddethol.

"Ces fy nallu gan ddagrau, fy nieithrio yn llwyr, fy nifyrru a'm gwylltio yn gacwn. Cefais gwmni dau feirniad 芒 chanddynt farn bendant, a bu'r trafod yn bleser amheuthun.

"Mae'r darllen yn parhau, a'r sgwrsio'n dwysau - rhaid dweud, rydw i yn fy elfen."

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2014 yn adlewyrchu safon y gwaith a gyhoeddwyd yn ystod 2013.

"Tri chategori, dwy iaith, a deunaw o awduron yn ymgiprys am y teitl Llyfr y Flwyddyn Cymraeg a Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2014.

"Mae pob un o'r llyfrau werth eu darllen, a gyda naw wythnos tan y Seremoni Wobrwyo, nawr yw'r amser perffaith i fwrw ati."

Rhestr Saesneg

Yr un yw'r categor茂au yn y rhestr fer llyfrau Saesneg, a'r beirniaid yw'r awdur a newyddiadurwr Jasper Rees, y darlithydd Andrew Webb a'r comed茂wr Nadia Kamil. Dyma'r rhestr:

Rhestr Fer Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias :-

  • Pink Mist - Owen Sheers (Faber and Faber);

  • The Shape of a Forest - Jemma L.King (Parthian);

  • Barkin! - Mike Jenkins (Gwasg Carreg Gwalch).

Rhestr Fer Ffuglen :-

  • The Rice Paper Diaries - Francesca Rhydderch (Seren);

  • Clever Girl - Tessa Hadley (Jonathan Cape);

  • The Drive - Tyler Keevil (Myriad Editions).

Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol :-

  • R.S.Thomas: Serial Obsessive - M.Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru);

  • Rhys Davies: A Writer's Life - Meic Stephens (Parthian);

  • And Neither Have I Wings To Fly - Thelma Wheatley (Inanna Publications).

Bydd yr holl enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn Galeri Caernarfon ar ddydd Iau, 10 Gorffennaf.

Yn y seremoni fe fydd gwobr arbennig hefyd yn cael ei chyflwyno sef Gwobr Barn y Bobl a'r People's Choice Award i hoff lyfrau darllenwyr Cymru o'r rhestr fer.

Gellir pleidleisio am eich hoff lyfr Cymraeg ar wefan , a'ch hoff lyfr Saesneg ar wefan

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol