大象传媒

Cyfarfod i drafod yr Ysgwrn

  • Cyhoeddwyd
Yr YsgwrnFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri

Mi fydd Cyfeillion yr Ysgwrn yn cynnal cyfarfod yn hwyrach er mwyn trafod camau er mwyn eu gwneud yn elusen cofrestredig.

Mae'r gymdeithas yn cefnogi gwaith Awdurod Parc Cenedlaethol y corff sy'n gyfrifol am gynnal cartref Hedd Wyn fel amgueddfa o fath, er cof am fywyd a gwaith y bardd.

Cafodd Ellis Humphrey Evans ei ladd ar faes y gad ym Mrwydr Passchendaele, ychydig wythnosau cyn cael ei gadeiro yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917 am ei awdl, Yr Arwr.

Mae'r gadair honno - Y Gadair Ddu - i'w gweld yn yr Ysgwrn, y ty fferm lle cafodd y bardd ei eni a'i fagu. Roedd mam Hedd Wyn wedi gofyn am i ddrws yr eiddo "gael ei gadw ar agor" er cof am ei mab.

'Agored i bawb'

Ffynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Caiff ymwelwyr i'r Ysgwrn weld y Gadair Ddu

Cafodd Cyfeillion Yr Ysgwrn ei sefydlu wedi i Barc Cenedlaethol Eryri ei brynu n么l yn 2012, yn bennaf er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r Ysgwrn a'i gefnogi.

Mae Rheolwr Prosiect yr Ysgwrn Naomi Jones nawr yn credu bod yr amser bellach wedi cyrraedd i'r Cyfeillion ddatblygu ymhellach.

"Mae Cyfeillion Yr Ysgwrn yn gymdeithas fywiog a gweithgar, sy'n cyfrannu yn fyrlymus at waith yr Awdurdod yn Yr Ysgwrn," meddai Ms Jones.

"Ein gobaith yw adeiladu ar yr aelodaeth bresennol gan sicrhau fod gwaith ac ymdrech y Cyfeillion yn rhan annatod o ddyfodol y safle.

"Ond, er mwyn ffurfio cymdeithas annibynnol, mae'n hanfodol sefydlu cyfansoddiad ar gyfer y gr诺p, sefydlu pwyllgor (yn cynnwys swyddi Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd) ac agor cyfri banc.

"Mae aelodaeth o'r Cyfeillion yn agored i bawb. Fe fyddem yn gwerthfawrogi cyfraniadau bywiog, syniadau adeiladol ac aelodau gweithgar a bydd eu gwaith yn gwbl allweddol i ddatblygiad Yr Ysgwrn."

Gobaith Ms Jones yw y bydd cais am dros 拢2.5 miliwn i'r Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn llwyddiannus ac y gall y gwaith o ddatblygu'r Ysgwrn ddechrau o ddifrif.

Mi fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 7yh yn y Capel Bach.