大象传媒

Yn 么l i'r Gwreiddiau Gwerin

  • Cyhoeddwyd
Y Foxglove TrioFfynhonnell y llun, Foxglove trio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Foxglove Trio: gyda Ffion ar y dde

Mae 'na dwf ym mhoblogrwydd canu gwerin yng Nghymru ac yn rhyngwladol ar hyn o bryd.

Mae nifer o artistiad cyfoes fel Plu, 9Bach a Georgia Ruth wedi mabwysiadu'r traddodiad gwerin cenedlaethol a'i addasu ar gyfer yr oes.

Wrth i artistiaid gwerin heidio i'r , oes yna beryg ein bod ni'n dinistrio ein gwreiddiau cerddorol er mwyn creu rhywbeth sydd yn dderbyniol i'r mwyafrif ac apelio i gynulleidfa fwy eang?

Mae Ffion Mair yn aelod o'r gr诺p gwerin Foxglove Trio ond hefyd yn gyfrifol am wefan sydd yn canolbwyntio ar un g芒n werin draddodiadol o Gymru bob wythnos.

Datblygu a newid

"Dyw rhai caneuon sydd ddim yn adnabyddus iawn yn gorwedd mewn archifau neu mewn llyfrau ac mae'r s卯n werin wedi anghofio amdanyn nhw. Wrth dynnu sylw at y caneuon ar y wefan 'dwi ddim yn ceisio cop茂o'r ffordd clywais y bobl yn yr archif yn eu canu nhw ond dwi'n canu nhw yn y ffordd sy'n teimlo'n iawn i mi. Felly, er bod y blog yn atgyfodi hen ganeuon, mae esblygu yn digwydd o hyd.

"Mae pob celfyddyd wastad yn esblygu, gan gynnwys cerddoriaeth werin. Yn wir, mae esblygiad yn rhan o'r traddodiad. Mae'r caneuon rydym yn eu canu heddiw wedi eu pasio mlaen yn y traddodiad llafar ers cannoedd o flynyddoedd gyda phob perfformiwr yn dewis y geiriau, y cyweirnod, y tempo a'r alaw oedd orau ganddi hi/ganddo fo.

"Dim ond ers i ni dechrau cyhoeddi llyfrau o ganeuon gwerin mae'r syniad o ganu c芒n yn 'gywir' wedi bodoli.

"Mae rhai caneuon wedi eu colli oherwydd does neb sy'n fyw yn eu cofio bellach, ond y peth gwych am yr oes ddigidol yw y bydd pob c芒n sy'n cael eu recordio heddiw yn bodoli am ganrifoedd. Felly os ydy caneuon heddiw, er enghraifft caneuon Dafydd Iwan, yn cwympo allan o ffasiwn a bod neb yn gallu eu canu nhw mewn 100 mlynedd, gall rhywun ddod o hyd i recordiad yna eu dehongli a'u hatgyfodi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr offerynnau traddodiadol yn dylanwadu ar do newydd o gerddorion

Dysgu'r ifanc

"Mae sawl peth sy'n digwydd ar hyn o'r bryd sydd wedi gwneud canu gwerin yn fwy poblogaidd. Yn gyntaf, mae cerddoriaeth werin wedi dod yn fwy cyraeddadwy yng Nghymru oherwydd gwaith mudiadau fel a .

"Mae plant mewn ysgolion Cymraeg wedi profi cerddoriaeth gwerin trwy'r eisteddfod ers blynyddoedd ond mae gwaith Trac a Clera yn golygu bod pobl o bob oed, yn Gymraeg a di-Gymraeg, yn cael profi math o gerddoriaeth gwerin rydych yn ymuno ynddi oherwydd bod hi'n hwyl, nid oherwydd bod hi'n gystadleuaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Plu, band newydd sydd yn cadw'r traddodiad gwerin yn fyw

"Hefyd, mae mwy o bobl ifanc heddiw yn gwrthod materoliaeth ac yn chwilio am bethau mwy real - mae mwy o bobl yn yfed real ale ac yn cefnogi busnesau bach ar y stryd fawr. Yn fy marn i cerddoriaeth gwerin yw'r math mwyaf real o gerddoriaeth sydd ar gael - gall unrhywun gymryd rhan a gallwch ei chwarae yn unrhywle heb unrhyw system sain neu hyd yn oed offerynnau."

Y werin biau'r gwerin

"Wrth i fwy o bobl ddarganfod cerddoriaeth werin mae'n naturiol bydd mwy o gerddorion yn cael eu dylanwadu gan gerddoriaeth gwerin a felly bydd gwerin yn cael ei amsugno mewn i fathau eraill o gerddoraeth - mae gwaith Catrin Finch & Seckou Keita neu Salsa Celtica, yn enghreifftiau da o hyn. Mae hyn i'w groesawu. Mae cerddoriaeth werin yn perthyn i bawb ac mae pawb yn rhydd i wneud beth bynnag mae nhw eisiau efo hi.

Ffynhonnell y llun, Andy Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cydweithio rhwng Seckou Keita a Catrin Finch yn gwthio ffiniau cerddoriaeth werin draddodiadol

"Dwi ddim yn meddwl bod angen i ni boeni y bydd cerddoriaeth werin yn cael ei erydu trwy fod yn rhan o genres arall. Bydd cerddoriaeth werin draddodiadol yn bodoli cyn belled a bod yna bobl sy'n mwynhau y math yma o gerddoriaeth. Dwi ddim yn meddwl dylai pobl ymwneud 芒 cherddoriaeth werin gan bod nhw'n teimlo dyletswydd dros gadw hi'n fyw, ond oherwydd bod hi'n rhywbeth mae nhw'n mwynhau."

"O nerth i nerth"

"Dwi'n gobeithio bydd y s卯n werin yn mynd o nerth i nerth. Dwi'n gobeithio bydd pobl yn dal i ganu caneuon traddodiadol - oherwydd eu bod nhw'n mwynhau nhw, nid oherwydd bod nhw'n teimlo y dylen nhw - ac hefyd yn arbrofi efo cyflwyno cerddoriaeth werin o fewn cerddoriaeth gyfoes.

"Os yw mwy o bobl yn cael y cyfle i gael profiad positif o gerddoriaeth werin - yn ei holl ffurf - dwi'n credu bydd y twf ym mhoblogrwydd cerddoriaeth werin yn parhau am flynyddoedd i ddod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol