T卯m P锚l-droed Ysgol Plasmawr yn ennill cwpan Prydain

Ffynhonnell y llun, Ysgol Plasmawr

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r tro cyntaf i ysgol o Gymru ennill y teitl

Mae Prif Weinidog Cymru wedi llongyfarch disgyblion ysgol o Gymru am ennill teitl Cwpan P锚l-droed o dan 15 Ysgolion Ynysoedd Prydain.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda i ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Plasmawr oedd yn bencampwyr Caerdydd a'r Fro ac yn enillwyr Cwpan Cymru.

Ddydd Sadwrn yn Lilleshall yn Sir Amwythig mi guron nhw Goleg Sant Brendan o Weriniaeth Iwerddon o 1-0 yn y ffeinal ac ennill Cwpan Alan McKinstry.

Ysgol Uwchradd Braidhurst o'r Alban oedd yn drydedd wedi iddyn nhw guro Ysgol Uwchradd Christleton o Loegr o 4-1.

Dyma'r tro cyntaf i ysgol o Gymru ennill y teitl.

Cafodd y gystadleuaeth ei sefydlu yn 2008 a Bwrdd Rhyngwladol y Gymdeithas Ysgolion oedd yn trefnu'r penwythnos. Nod y bwrdd ydy hybu chwaraewyr ysgol a rheoleiddio gemau rhyngwladol ar gyfer pobl ifanc o dan 16 oed.

Mae Carwyn Jones wedi trydar a dweud: "Buddugoliaeth ardderchog!"