Blwyddyn ers Y Cyfnod newydd
- Cyhoeddwyd
Erbyn bore dydd Iau bydd rhifynnau diweddaraf Y Cyfnod a'r Corwen Times - papurau lleol ardal y Bala a Chorwen yn y siopau ac ar faes Eisteddfod yr Urdd - gan nodi blwyddyn union ers i Mari Williams brynu'r papur.
Daeth y ddau bapur i ben pan gaeodd Gwasg y Sir yn y Bala fis Mai 2013. Ers hynny Mari yw perchennog a golygydd y papurau.
Cafodd 大象传媒 Cymru Fyw air efo hi wrth iddi hi baratoi i gyhoeddi'r rhifynnau diweddaraf:
Pen-blwydd Hapus! Sut flwyddyn ydi hi wedi bod?
"Roedd hi yn her. Roedd y papur wedi ei sefydlu yn barod o ran dilyniant a darllenwyr, ond dyna'r oll mewn ffordd. Doedd 'na ddim cyfnod o handover felly roedd yn rhaid dechrau o'r dechrau a hynny mewn byd lle roedd gen i rywfaint o brofiad mewn elfennau ohono ond dim llawer - byd argraffu, dosbarthu, hysbysebu, system gyfrifon i ddelio hefo hysbysebwyr, gwerthwyr.
Ar y dechrau hefyd ro'n i yn gosod y papur - yn dylunio,yn sgwennu, yn golygu, yn trafod a chasglu lluniau a storiau. Roedd o'n llawer o waith, ac mewn ffordd, y gwaith o gwmpas y papur ei hun oedd y gwaith mawr.
Felly, oedd, yn dipyn o her ond rydw i'n dechrau dod i'r afael ar 么l blwyddyn!
Beth ydy'r peth gorau a'r peth gwaethaf am redeg papur newydd?
Y peth gwaethaf ydi galwadau ff么n sy'n cychwyn efo'r geiriau "o'ni'n siomedig bod hyn/hynny/arall ddim yn y papur," achos allwch chi ddim plesio pawb o hyd a dwi'n dal i wneud camgymeriadau.
Y peth gorau ydi mod i'n teimlo mod i wedi symud i'r ardal i fyw o'r newydd. 'Dwi wedi dod i adnabod cymaint o bobl - pobl roeddwn i'n nabod eu wynebau ond dim syniad pwy ydyn nhw. Hefyd, dwi wedi cael enw newydd. Mari Gwernhefin ydw i wedi bod ar hyd y blynyddoedd gan mai dyna lle magwyd fi, a r诺an Mari Cyfnod ydw i!
Oes 'na adegau pan wyt ti'n difaru?
Ambell i dro! Yn enwedig yn oriau m芒n bore dydd Mercher pan oedd tudalennau ddim yn bihafio fel roedden nhw i fod wrth fynd i'r wasg. Ac unwaith mi gawson ni power cut a cholli popeth a gorfod dechrau o'r dechrau. Ond mae cael dylunydd wedi bod yn drobwynt o ran cadw'n gall a chael rhywfaint o gwsg, ac mae'n neis gallu trafod a rhannu'r gwaith.
Rwyt ti'n cael dy nabod fel y person wnaeth 'achub' y papur ac am dy gyfraniad drwy hynny i dy ardal. Wyt ti'n teimlo pwysau?
Ar y dechrau, roeddwn i'n tr茂o peidio meddwl amdano fo ormod, ac roedd pethau'n ddigon prysur i mi beidio gorfod i fod yn onest, oherwydd mi faswn i wedi gallu teimlo ychydig o bwysau taswn i wedi gadael i mi fy hun.
Mae pobl yr ardal yn meddwl y byd o'u Cyfnod a'u Corwen Times ac roedd yna dristwch go iawn pan ddaeth y papurau i ben. Yr ochr dda oedd bod pawb mor hapus bod y papurau wedi eu hachub, y cwbl brofes i oedd cefnogaeth a chymorth yn hytrach na phwysau.
I rai sydd ddim yn gyfarwydd ag ardal y Bala, sut ardal ydy hi a beth yw'r ymateb wedi bod yn lleol i Eisteddfod yr Urdd?
Anhygoel. Mae hi'n ardal lle mae pawb wrthi fel morgrug beth bynnag yn trefnu ac ymwneud efo cymdeithasau ac yn y blaen - mae trefnu a gweithio yn wirfoddol er lles y gymuned yn rhan o gyfansoddiad pobl yr ardal, ac felly parh芒d o hynny oedd yr holl godi arian.
Mae yna lawer iawn o bobl ifanc yma - mae 'na fwrlwm go iawn ar Aelwydydd yr Urdd a Chlybiau Ffermwyr Ifanc yr ardal a mae hynny wedi ei amlygu trwy'r Eisteddfod, sy'n wych i'w weld.
Lle fydd papurau lleol fel Y Cyfnod a'r Corwen Times ymhen 10 mlynedd?
Mmmm ... dwi 'im. O ran sut mae'r Cynfod a'r Corwen Times yn cael ei ddefnyddio, dwi'n meddwl y bydd lle wastad i fersiwn bapur, ond yn amlwg mae'n rhaid cael presenoldeb ar y we - ond ar y funud does dim yr amser na'r adnoddau i wneud hynny. Ond bydd rhaid i'r we gynnig rhywbeth gwahanol ac nid jest bod yn fersiwn o'r papur a thrwyddo gyrraedd pobl nad yden ni'n eu cyrraedd r诺an.
Rwyt ti hefyd yn ysgrifennu ac wedi cyhoeddi llyfr, heb s么n am fod yn fam! Wyt ti'n cael amser i ysgrifennu'n greadigol? Oes 'na unrhyw beth ar y gweill?
Dwi ar hanner, neu ar chwarter, nofel i ddilyn Helyntion Hogan Wyllt. Helyntion Hogan Hectig ydi honno wedi ei seilio ar y colofnau roeddwn i yn eu sgrifennu yn Golwg pan ar gyfnod mamolaeth efo'r ferch. Dwi wrthi fel lladd nadroedd yn 'sgwennu hwnnw ar y funud ac ydw, rydw i'n fam i ddau sy'n saith ac yn bump ac sy'n ddau ffrwydriad o egni ac yn tr茂o deall pam bod mam fel drychiolaeth flinedig bob bore Mercher ar 么l rhoi'r papur i'w wely!
Un o fy hoff bethau oedd pan glywodd fy mab fi'n gweld beiau ar y papur ryw dro: "Pam bo' ti o hyd yn siarad am y pethe sy'n rong ar Y Cyfnod pan mae pawb arall yn siarad am y pethe sy'n dda?" Da'r 'hogyn!
Dyna i chi un darllenwr ifanc fydd yn sicr yn cael darn o'r gacen ben-blwydd!